Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cafodd y ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru yn unig ar yr amgylchedd hanesyddol Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Ers hynny, mae’r rhan fwyaf o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi dod i rym, ac mae corff trawiadol o bolisïau, cyngor a chanllawiau arfer gorau ategol wedi cael eu cyhoeddi. Mae’n adeg briodol yn awr i bwyso a mesur yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni ac edrych ymlaen at y dyfodol.
Mae Deddf 2016 wedi rhoi Cymru ar flaen y gad yn DU o ran diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol. Er enghraifft, yn dilyn cychwyn y darpariaethau perthnasol ar ddiwedd mis Mai, Cymru yn unig all hawlio cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol ar gyfer pob ardal awdurdod leol. Maent yn darparu gwybodaeth hanfodol y mae ei hangen ar awdurdodau lleol, datblygwyr ac eraill i wneud penderfyniadau cytbwys ar reoli’r amgylchedd hanesyddol. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i ddysgu mwy am yr amgylchedd hanesyddol lleol ac ymgysylltu ag ef. Mae’r ddeddfwriaeth wedi rhoi dyfodol sefydlog i’r cofnodion hanfodol hyn ac mae eu pwysigrwydd wedi cael ei danlinellu gan ganllawiau statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus.