5. 4. Datganiad: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:44, 4 Gorffennaf 2017

A allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ar bolisi a deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol. Mae nifer o’r pwyntiau eisoes wedi cael eu crybwyll gan Paul Davies, felly ni wnaf ailadrodd, ond mi fuaswn i yn pwyso ychydig bach yn rhagor. Rydych chi’n dweud yn fan hyn, ar yr ail dudalen, mater rydych chi wedi’i grybwyll eisoes: rydych chi wedi’i gwneud hi’n haws i awdurdodau cynllunio lleol i ymgymryd â gwaith mewn argyfwng lle mae yna adeiladau wedi’u rhestri sydd yn gwaethygu yn eu cyflwr, felly. Mae hynny’n iawn am waith argyfyngus. Beth am y gwaith yna sydd yn llai nag argyfyngus, ond yn angenrheidiol, serch hynny, i godi adeilad unwaith eto yn ôl i safon gweladwy digonol, fel y Palace Theatre yn Abertawe, er enghraifft? Mae gwaith angenrheidiol angen ei wneud. Buaswn i ddim yn ei alw fe’n ‘mewn argyfwng’, ond mae angen ei wneud. Mae angen pwerau cryfach ar gynghorau lleol nag sydd ar gael ar hyn o bryd i weithredu yn hyn o beth. Nid wyf yn gwybod os ydy Ysgrifennydd y Cabinet eisiau ymhelaethu ar hynny: lle mae’r angen yn llai nag argyfyngus, ond mae e’n angen, serch hynny. Achos mae rhai o’r adeiladau yma’n gallu bod yn embaras yn lleol.

Troi at beth sydd yn fy niddori i’n naturiol ydy enwau lleol hanesyddol yn y datganiad yma, gan gofio bod cadw enwau lleol hanesyddol yn hanfodol bwysig. Fel rydych chi wedi crybwyll, mae Rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn crybwyll

‘llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru’, sydd wedi digwydd. Mae’r wefan, fel rydych chi wedi dweud, yn rhestru dros 350,000 o enwau lleoedd hanesyddol Cymru, gan ymgyfuno’r gwahanol ffurfiau a sillafiad o’r lleoedd dros amser. Tra dylid croesawu’r fath adnodd, rhaid pwysleisio nad yw’r rhestr yn sicrhau unrhyw amddiffyniad cyfreithiol o enwau lleoedd hanesyddol ein gwlad. Ar ddiwedd y dydd, dim ond rhestr ydy hi. Rydym ni’n parhau i wynebu sefyllfa lle nad oes unrhyw ddiogelwch i enwau lleoedd hanesyddol Cymru. Mae’r diffyg diogelwch statudol hyn yn warthus wrth ystyried pwysigrwydd yr enwau hyn yng nghyd-destun treftadaeth ac hanes ein gwlad. Heb reoleiddio statudol, bydd peryg go iawn i nifer o’r enwau hyn a gofnodir ar y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wirioneddol fod yn ddim mwy na hanesyddol eu hunain, wrth i’r enwau byw hyn gael eu newid a’u hanghofio.

Efallai i’r Ysgrifennydd Cabinet gofio fy ymgais i i ddod â Bil gerbron ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru yn ôl ym mis Mawrth. Bydd yn cofio o’r memorandwm esboniadol i’r Bil hwnnw—ac rydw i’n dyfynnu—pwysigrwydd cadw enwau fel mater amgylcheddol hanesyddol:

‘Mae enwau lleoedd hanesyddol yn dystiolaeth werthfawr o ran hanes cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol. Mae enwau aneddiadau, tai a ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn darparu gwybodaeth am arferion amaethyddol y presennol a’r gorffennol, diwydiannau lleol, sut mae’r dirwedd wedi newid a chymunedau’r presennol a’r gorffennol. Maent yn dystiolaeth o ddatblygiad treftadaeth ieithyddol gyfoethog—yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.’

Llawer o ieithoedd eraill: enwau Lladin; Eingl-Sacsonaidd; Llychlynnaidd; Ffrengig; Normanaidd; Saesneg—llawer mwy. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio’r ddadl o fis Mawrth. Mae yna enghreifftiau pellach o golli enwau, wrth gwrs: ‘Maes-llwch’ ym Mhowys yn troi yn ‘Foyles’; ‘Cwm Cneifion’ yn Eryri yn troi yn ‘Nameless Cwm’. Dan amodau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, nid oes dim byd pendant yn atal y newid enwau lleoedd hyn; gallai dal ddigwydd. Gellid dadlau bod gwendid y Ddeddf i amddiffyn yr enwau hyn yn bygwth elfen hollbwysig o’n hamgylchfyd hanesyddol. Cafodd Bil mis Mawrth eleni ei wrthod, fel rydych chi’n gwybod, oherwydd gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn o, er bod cefnogaeth selog yn y gymdeithas sifig i ddiogelu enwau lleoedd o du Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Mynyddoedd Pawb, Comisiynydd y Gymraeg, ac ymlaen. Nodoch chi, yn hytrach, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bwriad, fel rydych chi’n cyhoeddi heddiw, i ehangu defnydd o restr enwau lleoedd a chyflwyno canllawiau yn unig, nid Deddf, ac rydw i’n dyfynnu o’ch datganiad y diwrnod yna yn ôl ym mis Mawrth:

‘bydd defnydd o’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yn cael ei ystyried yn benodol. Yn gyffredinol, bydd y canllawiau hynny’n cyfarwyddo’r cyrff cyhoeddus hyn i ystyried y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wrth ystyried enwi ac ailenwi strydoedd, adeiladau a lleoedd eraill’.

Ystyried cyn eu diystyru. Sylwer o’i sylwadau mai’r angen i ystyried yn unig fyddai’r fath ganllawiau arfaethedig yn—