Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch o gyfrannu at ddadl ddiddorol heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac o gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, mae hwn yn gyfnod o newid i’r sefydliad hwn ac i Gymru. Rydym ar fin gweld cyflwyno’r trethi Cymreig newydd cyntaf ers 800 o flynyddoedd—sawl gwaith yr ydym wedi clywed hynny yn y Siambr hon dros y misoedd diwethaf—pan gaiff treth stamp a threth tirlenwi’r DU eu diffodd a phan ddaw fersiynau newydd i Gymru i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. A bydd Awdurdod Cyllid Cymru, gobeithio, yn gwbl weithredol erbyn hynny ac yn ei le i gasglu’r trethi hynny.
Fel y gwyddom, bydd tirlun treth yn newid eto y mis Ebrill canlynol gyda chyflwyniad WRIT, cyfradd treth incwm Cymru, a'r refeniw sylweddol y bydd honno’n ei roi’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, er y bydd, wrth gwrs, yn dal i gael ei gasglu, yn yr achos hwnnw, gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Wrth gwrs, bydd y trethi hyn yn disodli trethi presennol y DU ac yn eu hadlewyrchu i ryw raddau. Felly, mae croeso i ddadl heddiw, oherwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i nodi, mae’n ein symud ymlaen o'r dadleuon hyd yn hyn ac yn rhoi cychwyn ar y drafodaeth am drethi newydd posibl yn ychwanegol a thu hwnt i ddisodli trethi, sut y gallai’r trethi hynny edrych a sut y gellid eu datblygu.
Nawr, yn hollbwysig, mae’n rhaid cynnwys y cyhoedd yn y broses hon, ac rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hyn. Mae'n rhaid i'r cyhoedd fod yn hyderus ynddi ac, yn fwy na hyn, mae'n rhaid iddynt deimlo perchnogaeth. Wedi'r cyfan, fel y gwyddom, ar ddiwedd y dydd, arian y trethdalwyr yw arian y Llywodraeth, a dylem bob amser gofio’r ffaith bwysig honno.
Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi amlinellu cymhlethdod enfawr sefydlu treth newydd. Roeddwn yn mynd i ofyn ichi beth yn union yr oeddech yn ei olygu wrth ‘profi'r system’, ond rwy’n meddwl eich bod wedi rhoi arwydd clir iawn inni o ba mor gymhleth yw’r broses hon, nid yn unig o ran cyflawni ein swyddogaeth ni ar y pen hwn i'r M4, ond hefyd wedyn wrth edrych ar ben arall yr M4 yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi—a chyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y system LCO flaenorol; roedd yn gwybod pa mor anodd oedd honno. Rwy'n meddwl, yn y cyfnod cynnar hwn, ei bod yn debyg bod y cymhlethdod yn ddealladwy, ond rwy’n llwyr werthfawrogi'r ffaith eich bod yn teimlo bod angen profi hyn i gyd i weld sut y gallwn symud ymlaen.
I droi at y gwelliannau, a gwelliant 1, y wireb na ddylid newid er mwyn newid, y gwnaethoch chi eich hun ei ddweud ac sydd wedi’i gymryd o’ch datganiad ysgrifenedig chi a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf, ac y rhoddwyd dolen ato ar wefan y Cynulliad, mae hefyd yn ymddangos mewn llawer o ddogfennau eraill ac wedi cael sylw lawer gwaith, gennych chi a gan eich rhagflaenydd, Jane Hutt, wrth iddi roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n meddwl, wrth wrando ar—. Nid oeddwn yn hollol siŵr a ydych chi o blaid ein gwelliant ai peidio. Rwy’n meddwl eich bod, ond rwy’n meddwl eich bod yn ei ddehongli mewn ffordd benodol, sy'n ddigon teg. Rwy’n cytuno ei bod yn wireb dda. Cytunais â chi pan wnaethoch ddweud hynny wrth y pwyllgor. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, lle bo modd, ac ar gyfer sicrhau cyfnod pontio didrafferth a hwylus, na ddylai’r strwythur trethi newydd wyro oddi wrth strwythur eu cymheiriaid dros y ffin os yw’n fuddiol iddynt fod yn debyg.
Fel y gwnaethoch ei gydnabod, mae hyn wedi symud ymlaen ychydig; rwy’n awgrymu y dylai hefyd fod yn berthnasol i drethi newydd—trethi y gellid eu galw’n drethi annibynnol, am wn i; ffurfio creu’r trethi annibynnol hynny. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, fel yr awgrymoch chi eich hun, na ddylem geisio dim ond creu trethi er mwyn trethi a dim ond i brofi'r system, ond dylem fod yn ceisio creu trethi sydd â’r potensial i wella bywydau pobl yng Nghymru yn wirioneddol ac i ychwanegu at y system dreth, ac rwy’n meddwl mai dyna yw eich bwriad. Yn amlwg, mae gennych awydd i brofi’r agwedd newydd hon ar y system datganoli. Wrth gwrs, mae angen gwneud hynny’n ofalus ac, fel y dywedais, dylid cyflwyno unrhyw drethi newydd am y rhesymau cywir.
Os ydym yn chwilio am enghreifftiau o drethi, mae'n debyg y byddai’r ardoll bagiau plastig, fel y'i galwyd—er nad oedd yn dreth, yn amlwg, ardoll ydoedd, am resymau’r dydd a'r ffordd yr oedd y Cynulliad yn gweithio yn y dyddiau hynny—rwy’n meddwl y byddai wedi bodloni’r meini prawf hynny yr ydych yn eu hamlinellu nawr. Rwy'n meddwl, a dweud y gwir, mai trethi amgylcheddol yn ôl pob tebyg yw'r ymgeiswyr mwyaf amlwg ar gyfer profi’r system hon ac yn sicr byddai Llywodraeth Cymru yn iawn i ganolbwyntio ar y rhain ac yn sicr yn eu hystyried o ran profi'r system treth.
Mae'n amlwg bod gan Lywodraeth Cymru brofiad o ddeddfu yn y maes hwn yn y gorffennol ac, ar y cyfan, mae'n ymddangos bod hynny wedi gweithio—wel, nid yw wedi chwalu, beth bynnag, felly byddai hynny’n sicr yn cyfrif fel gweithio.
I droi at yr ail welliant, Llywydd, rwy’n gwybod fy mod yn brin o amser, ond, yn fyr—mae hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i gwblhau adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd o fewn chwe blynedd ar ôl eu cyflwyno. Trafodwyd pwysigrwydd adolygu trethi newydd Cymru, y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, yn ystod Cyfnodau 2 a 3 y broses ddeddfu. Rwy'n meddwl, er na chawsom welliant, am wahanol resymau, ar y llyfrau ar y pryd, rwy’n gwybod eich bod wedi cytuno ag egwyddor adolygiad eang, ar ôl cyfnod o tua chwe blynedd, o’r ffordd y mae trethi newydd yn gweithio. Rwy'n meddwl bod hon yn egwyddor dda ac rwy'n meddwl y byddai hefyd yn ddoeth iawn inni gyflwyno hyn yn y trethi annibynnol newydd—ni allaf feddwl am beth gwell i’w galw. Felly, dyna pam mae’r gwelliant hwnnw yno. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cefnogi'r gwelliannau ac, fel y dywedais, rydym yn fwy na pharod i gefnogi byrdwn cyffredinol y cynnig hwn.