8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:27, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bob amser yn ddengar a rhesymol yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Rwyf i, efallai, yn mynd i ddilyn trywydd ychydig yn wahanol yn fy araith i, i eraill sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd, yn gyffredinol, dydw i ddim o blaid cyflwyno trethi newydd, er fy mod yn gryf o blaid datganoli cynifer o drethi ag sy’n synhwyrol. Mae gennym broblem yng Nghymru, wrth gwrs, gan fod ein hincwm cyfartalog gymaint yn is na chyfartaledd gweddill y Deyrnas Unedig, felly mae'r sylfaen dreth yn fwy anodd i fanteisio arni, os caf ddefnyddio'r gair hwnnw mewn ystyr niwtral. Ond, yn fras, rwyf o blaid cadw’r cysylltiad rhwng penderfyniadau’r Llywodraeth ac atebolrwydd drostynt drwy'r system o godi trethi. Rwy’n meddwl bod datganoli trethi’n rhoi cyfleoedd inni, fel y mae Adam Smith—Adam Price newydd ei nodi. [Chwerthin.] Llithriad Freudaidd yno, rwy’n meddwl.