Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Ac mae’r bleidlais, felly, ar y ddadl ar drethi newydd, ac ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, naw yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.