9. 8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:08, 4 Gorffennaf 2017

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. Ac mae’r bleidlais, felly, ar y ddadl ar drethi newydd, ac ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, naw yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 44, Yn erbyn 0, Ymatal 9.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig welliant 1 i gynnig NDM6352.

Rhif adran 389 Eitem 7 - Dadl: Ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru (60 munud)

Ie: 44 ASau

Wedi ymatal: 9 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:09, 4 Gorffennaf 2017

Yr ail bleidlais, ar welliant 2, ac rwy’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. [Torri ar draws.] Mae’r bleidlais ar agor.

The vote is open, finally.

Cau’r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6352.

Rhif adran 390 NDM6352 - Gwelliant 2

Ie: 53 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 4 Gorffennaf 2017

Rydw i’n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Cynnig NDM6352 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.

2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.

3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.

4. Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, ‘ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid’.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 4 Gorffennaf 2017

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6352 fel y’i diwygiwyd: O blaid 53, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6352 fel y’i diwygiwyd.

Rhif adran 391 NDM6352 - Cynnig (wedi'i ddiwygio)

Ie: 53 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.