Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, dau hysbysiad cosb benodedig yn unig a roddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a 13 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fodd bynnag, rhoddwyd 840 o hysbysiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd, o gymharu â llai na 300 mewn blynyddoedd blaenorol. Rhoddwyd dros 1,400 o hysbysiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y llynedd. Pa reswm y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi am yr anghysondeb sylweddol o ran nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd gan awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru? A pha sicrwydd y gall ei roi nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ffordd o gynyddu refeniw yn unig?