Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at yr amrywio yn y ffordd y mae gwahanol awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig, ond mae hynny oherwydd y repertoire o gamau y gall awdurdodau lleol eu cymryd, gan gynnwys achosion llys, ac mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio cymysgedd o ymatebion sy’n wahanol i’r hyn a geir gan awdurdodau eraill. Ac nid wyf o’r farn mai lle Llywodraeth Cymru yw penderfynu sut y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r gwahanol ymatebion sydd ar gael iddynt, a’r cyfuniad o’r ymatebion hynny, yn eu hardaloedd eu hunain. Cytunaf â’r pwynt y gwnaeth yr Aelod ar ddiwedd ei gwestiwn, fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig fel ymateb priodol i broblemau gwirioneddol, a bod y refeniw a godant yn ffordd o fynd i’r afael â’r problemau hynny yn hytrach na bod yn ffordd o godi refeniw ynddi’i hun.