Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn. Gwelais y cyngor a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, gyda chanllawiau yn galw am sefydlu parthau aer glân y tu allan i ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal, er enghraifft. Ni chredaf eu bod yn cyfeirio’n uniongyrchol yn y ddogfen honno at gyfundrefn cosbau penodedig; maent yn trafod y defnydd posibl o is-ddeddfau a chamau gweithredu eraill i gefnogi ardaloedd lle y gwaherddir cerbydau rhag segura. O ystyried yr hyn a wyddom am y pwyslais ar ansawdd yr aer, ymddengys i mi fod hwn yn adroddiad gwerthfawr iawn, a gwn y bydd cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn edrych arno, i weld a yw’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu y dylem ystyried eu rhoi ar waith yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau bod pwerau ar gael i awdurdodau lleol, os credir mai dyna’r ffordd orau o orfodi trefn o’r fath.