Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Fel cyn-gynghorydd, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cydymdeimlo’n fawr â’r llu o ofynion y mae troseddau amgylcheddol lefel isel yn eu hychwanegu at lwyth achosion cynghorwyr lleol. A thu hwnt i bortffolio o ymatebion awdurdodau lleol a grybwyllwyd eisoes gan Ysgrifennydd y Cabinet, gan gynnwys achosion llys, gall y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig fod yn offeryn effeithiol i helpu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol lefel isel, sy’n cynnwys sbwriel, baw cŵn, a sŵn nychus o anheddau ac adeiladau trwyddedig. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwerth y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig gan awdurdodau lleol fel un mesur ymhlith eraill i ddarparu gwell cymunedau ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu? A sut y gellir lledaenu arferion gorau?