Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, cytunaf gyda’r Aelod mai un mesur ymysg eraill yw hwn. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn rhan gyfarwydd iawn o’r repertoire sydd ar gael i awdurdodau lleol. Fe’u cyflwynwyd am y tro cyntaf mor bell yn ôl â’r 1950au. Ac er fy mod yn deall rhai o’r pryderon a fynegir weithiau ynglŷn â’r defnydd ohonynt fel offeryn i godi refeniw, mae’n bwysig nodi bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi codi gwerth £1 filiwn drwy hysbysiadau cosb benodedig i ymdrin â phroblemau amgylcheddol lefel isel o’r math y cyfeiriodd Rhianon Passmore atynt, a bod costau amgylcheddol glanhau sbwriel i awdurdodau lleol Cymru y llynedd yn £70 miliwn. Felly, mae’n gyfraniad cymharol fach tuag at fynd i’r afael â’r broblem, ac ni chredaf ei fod yn bwynt annheg i mi ei wneud i unigolion sydd weithiau’n cwyno am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â sbwriel, baw cŵn ac yn y blaen, fod yr ateb yn eu dwylo hwy i raddau helaeth, ‘Peidiwch â thaflu sbwriel ac ni fydd unrhyw hysbysiadau cosb benodedig i boeni amdanynt.’