Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf na all y Swyddfa Ystadegau Gwladol roi dyfarniad terfynol hyd nes y caiff contractau eu llofnodi mewn perthynas â chynigion y prosiect, ond mae’n wir y gallant roi dyfarniad dros dro ar ddosbarthiad. Rwy’n dibynnu yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ganllawiau swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y broses ddosbarthu, sy’n dweud:
O bryd i’w gilydd, gofynnir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol roi cyngor dosbarthu ar gynigion polisi fel y gall y llywodraeth ddeall sut y byddai’r cynigion hyn yn cael eu trin yn y cyfrifon cenedlaethol… Bydd unrhyw benderfyniad dosbarthu ar sail cynnig polisi sydd bron yn derfynol yn cael ei ystyried yn benderfyniad "dros dro" a bydd yn ddibynnol ar y cynnig yn cael ei roi ar waith fel y disgrifiwyd.
Felly, fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: a wnaeth y Llywodraeth, mewn perthynas â’r prosiect hwn, ofyn, nid am gyngor cyffredinol ynglŷn â risg dosbarthiad, ond am ddyfarniad dros dro, fel y nodir o dan adran 6, cynigion polisi’r Llywodraeth, yng nghanllawiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y broses ddosbarthu?