Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, Llywydd, rwy’n gyfarwydd iawn â’r canllawiau y mae’r Aelod newydd eu darllen, oherwydd mewn perthynas â’r model buddsoddi cydfuddiannol, dyna’n union yw safbwynt y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Maent wedi darparu safbwynt cyffredinol i ni na fyddai’r model, fel rydym wedi’i ddatblygu, yn cael ei ddosbarthu ar y llyfrau cyhoeddus yn y pen draw, ond maent yn cadw’r hawl, mewn unrhyw brosiect penodol y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef wedyn drwy’r model hwnnw—boed yn Felindre neu Flaenau’r Cymoedd neu beth bynnag y bo—i roi dyfarniad ar wahân i ni mewn perthynas â’r prosiect hwnnw. Felly, y fethodoleg a ddarllennodd Adam Price yw’r union ffordd y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflawni eu busnes.
Roedd y Llywodraeth yn fodlon, Llywydd, o’r cyngor a gawsom, fod y risg o ddosbarthu’r prosiect, fel y’i cyflwynwyd i’r Llywodraeth, i’r llyfrau cyhoeddus yn rhy fawr i ni i fwrw ymlaen ar y sail a nodwyd.