Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch. Wrth gwrs, bydd yr edefyn aur hwn—eich geiriau chi, nid fy rhai i—yn gofyn am gydweithio agos rhwng cynghorau cymuned, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac unrhyw drefniadau rhanbarthol, ac efallai y bydd y broses o ddiwygio yn gofyn am ad-drefnu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae eich Papur Gwyn yn argymell eu bod yn cydweithredu, neu hyd yn oed yn uno ar draws ffiniau byrddau iechyd lleol. O ystyried bod y cynigion ar gyfer pwyllgorau ardaloedd cymunedol bellach wedi cael eu diddymu, nid oes llawer o sôn am fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil blaenorol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ddadansoddiad a wnaethoch o ran prisio newidiadau o’r mathau hyn wrth symud ymlaen?