<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:53, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, wrth gwrs, bydd costau a manteision y cynigion y byddwn yn eu cyflwyno yn cael eu nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â’r Bil llywodraeth leol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn rhan o raglen yr ail flwyddyn pan wnaeth y datganiad deddfwriaethol yr wythnos diwethaf. A cheir asesiad effaith rheoleiddiol newydd a fydd yn adlewyrchu’r set o argymhellion a fydd wedyn gerbron y Cynulliad. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â byrddau gwasanaethau lleol, ac mae’n iawn i nodi’r ffaith y bu diddordeb yn yr ymgynghoriad o ran y ffordd y byddem efallai’n adlinio byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel y gallant gyd-fynd yn well â’r set newydd o amgylchiadau gyda mwy o bwyslais ar weithio rhanbarthol ac ati fel y nodwyd yn y Papur Gwyn. Ac rwy’n bendant yn bwriadu mynd ar drywydd rhai o’r safbwyntiau a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad, ac edrych ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng nghyd-destun y trefniadau newydd hyn.