<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:54, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch unwaith eto. Wrth gwrs, disgwylir y bydd gwariant awdurdodau lleol ar weinyddu canolog yn codi £11 miliwn eleni, tra bydd gwariant ar ffyrdd a thrafnidiaeth yn gostwng £2.73 miliwn, a’r gwariant ar lyfrgelloedd, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a hamdden yn gostwng bron i £4 miliwn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn dweud pethau mawr ynglŷn â llywodraeth leol symlach, ond mae’r ffigurau hyn yn awgrymu mwy o fiwrocratiaeth. Nid yw blynyddoedd o ansicrwydd ynglŷn â diwygio ac ad-drefnu wedi helpu o gwbl. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch awgrymu pam y disgwylir i’r costau hyn godi mor sylweddol, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau cyllidebu cadarn a chyfrifol yn y maes hwn?