Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, rydych newydd fod yn siarad am y diwygiadau arfaethedig i lywodraeth leol. Credaf mai un o’r materion sydd wedi dod i’r amlwg, o’r hyn rydych wedi’i ddweud wrthym hyd yn hyn, yw thema lleoliaeth yn erbyn yr angen am ffyrdd systematig a gorfodol o weithio, i ddefnyddio eich ymadrodd chi. Mewn geiriau eraill, mae arnom angen i gynghorau allu gweithredu yn eu ffordd eu hunain i ryw raddau, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau ar gyfer Cymru gyfan mewn rhai meysydd. Cododd mater yn ddiweddar yn Lloegr ynglŷn ag a allai neu a ddylai cyngor fod wedi gwahardd y wasg o gyfarfod. Nawr, ceir problem yng Nghymru o ran amrywioldeb darllediadau teledu o gyfarfodydd cynghorau, felly pa mor bell y byddwch yn mynd ar drywydd gorfodi gwaith systematig a gorfodol yn y maes hwn?