Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Wel, bydd Gareth Bennett yn ymwybodol—rwy’n gwybod, am ei fod wedi codi hyn gyda mi o’r blaen—fod ein Papur Gwyn yn gwneud cyfres o gynigion a fydd yn rhoi mwy o rwymedigaethau ar awdurdodau lleol i ddarlledu eu trafodion ac i sicrhau bod eu trafodion ar gael i’r cyhoedd. Rwy’n credu bod y rhannau hynny o’r Papur Gwyn wedi cael croeso, yn gyffredinol, yn yr ymgynghoriad. Rydym wedi dibynnu, i raddau, ar anogaeth yn y maes hwn yn y gorffennol. Bydd y Bil llywodraeth leol yn rhoi cyfle inni ddeddfu er mwyn sicrhau bod y safonau sy’n gwneud llawer iawn o’n cynghorau yn hygyrch ac yn agored ar gael ym mhob un ohonynt.