Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, Llywydd, credaf y byddwn yn ei roi fel hyn: hyd yn oed mewn achos o’r fath, byddai set o reolau’n cael eu dilyn, a byddwn yn awyddus i sicrhau o safbwynt Llywodraeth Cymru fod y llyfr rheolau, fel y mae heddiw, yn cael ei ddilyn yn fanwl gywir. Y sicrwydd roeddwn am ei roi i’r Aelod wrth ateb ei ail gwestiwn yw pan ddaw’r mater hwnnw i ben, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ailedrych ar y broses gyfan i weld a ydym yn credu bod y llyfr rheolau, fel y gweithredodd, yn gymesur â’r mater roedd yno i’w ddatrys. Ac os teimlwn, yng ngoleuni’r profiad hwnnw, fod angen diwygio’r llyfr rheolau, a rhoi set newydd o drefniadau ar waith sy’n sicrhau bod ymyrraeth yn bosibl mewn ffordd amserol ac sy’n caniatáu i faterion gael eu datrys, dyna’r set o wersi y gobeithiaf allu eu dysgu o’r profiad hwnnw.