Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Ie, diolch. Rydych wedi cyfeirio at Ynys Môn fel enghraifft lle y cafodd y broblem ei datrys, a chredaf eich bod yn iawn i edrych ar enghreifftiau o’r gorffennol a lle y llwyddodd Llywodraeth Cymru, i edrych ar hynny fel ffordd o ymdrin ag achosion a ddaw ger eich bron yn y dyfodol. Nawr, unwaith eto, mae hyn braidd yn anodd gan nad wyf am gyfeirio at achos penodol, ond os oes achos lle mae anghydfod cyflog wedi cael llawer o sylw yn y newyddion a’i fod wedi bod yn mynd rhagddo ers pedair blynedd, a fyddai’r pwynt pedair blynedd yn tueddu i fod o ddiddordeb i chi fel pwynt lle y gallai fod angen i chi ymyrryd yn yr achos damcaniaethol hwnnw?