<p>Gwasanaethau Cyhoeddus Datganoledig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:15, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch iddo am ei ateb. Wrth wraidd y cwestiwn ynglŷn â gwydnwch, fel rydym newydd fod yn ei drafod, mae mater lles a chynhyrchiant y gweithlu, y gallu i recriwtio a chadw talent, ac wrth wraidd hynny, mae mater cyflog. Felly, a wnaiff ymuno â mi i resynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac effaith hynny ar allu Llywodraeth Cymru i ariannu, mewn rhannau eraill o’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, y math o setliadau cyflog rydym eu heisiau a’u hangen? A yw’n cytuno â mi fod angen i Lywodraeth y DU fynd y tu hwnt i sesiynau briffio a goreograffwyd gan Weinidogion y Cabinet ar y mater hwn ac ildio go iawn ar fater caledi o ran cyflogau’r sector cyhoeddus? Ac a wnaiff ymuno â mi i obeithio y gellir cyfeirio talentau, egni, ac angerdd Plaid Cymru i gefnogi pwysau Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU, yn hytrach na chreu’r math o raniadau a welsom yn y Siambr ddoe?