Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, Llywydd, yn sicr, cytunaf y dylai Canghellor y Trysorlys wrando ar ei gydweithwyr yn y Cabinet a rhoi diwedd ar y cap niweidiol ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Clywsoch y Prif Weinidog yn gwneud yr union bwyntiau hyn ddoe. Gwyddom fod gweithwyr y sector cyhoeddus, ers 2010, wedi gweld y cyflog cyfartalog yn gostwng 4.5 y cant mewn termau real, ac mae hynny’n niweidiol iddynt hwy ac i’w teuluoedd, ond hefyd i’r cymunedau lle maent yn byw, gan ei fod yn cyfyngu ar alw effeithiol yn yr economi, a dyna pam y dywedais, yn fy ateb cyntaf i Jeremy Miles, fod polisi caledi yn bolisi cynhenid ddiffygiol. Ni allwch dorri eich ffordd allan o ddirwasgiad, a dyna mae’r Llywodraeth hon wedi ceisio’i wneud, ac wrth wneud hynny, mae wedi ychwanegu at y broblem, yn hytrach na cheisio’i datrys. Byddai cael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus yn ffordd werthfawr iawn o ysgogi’r economi yn ei chyfanrwydd.