Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn 2014, cynhaliwyd cynllun peilot gan grŵp o wirfoddolwyr staff i asesu dichonoldeb tyfu bwyd ar ystad y Cynulliad. Fel y byddwch yn sylweddoli, nid oes gan y Cynulliad fawr o ofod tyfu addas, yn wahanol i rai o ddeddfwrfeydd eraill y DU, ac yn anffodus, gwelwyd nad yw’n bosibl tyfu bwyd ar yr ystad, er bod ein harlwywyr yn tyfu perlysiau i’w defnyddio yn y gwasanaeth arlwyo.