<p>Papur Polisi Llywodraeth y DU, ‘Safeguarding the Position of EU Citizens in the UK and UK Nationals in the EU’</p>

Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:32, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud cyfraniad hynod o bositif i fywyd bob dydd yma yng Nghymru. Mae cynigion Llywodraeth y DU yn gam hwyr ymlaen, ond er hynny, nid ydynt yn darparu eglurder llawn i’r dinasyddion yr effeithir arnynt, ac ar y gwaethaf, ymddengys eu bod yn parhau i drin pobl fel testunau bargeinio, sy’n hollol annerbyniol i ni. Mae angen rhoi eglurder a sicrwydd llawn i bawb yr effeithir arnynt, ac mae angen i hynny ddigwydd heb ragor o oedi.