Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Wel, Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddweud rhywbeth am bwyntiau cychwynnol Steffan Lewis. Oherwydd mae’n ymddangos i mi mai camgymeriad sylfaenol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymgymryd â’r rhan hon o’r trafodaethau oedd ei bod, yn hytrach na disgrifio eu papur fel man cychwyn, rhywbeth i’w drafod ymhellach, ffordd o ddynesu at feysydd go gymhleth, wedi mynnu ei ddisgrifio o’r dechrau fel rhyw fath o gynnig hynod o hael yr oedd pobl yn siŵr o heidio i ymrwymo iddo. Yn anochel, yn y pen draw, fel y dywedodd Steffan Lewis, siomi pobl yn unig a wnaeth ar ôl i’w disgwyliadau gael eu codi. Mae’n ddechrau hollol ryfedd i Lywodraeth y DU beidio â chyfeirio hyd yn oed yn y ddogfen a gyhoeddwyd ganddynt at bapur yr UE a gyhoeddwyd cyn eu papur hwy, gan dramgwyddo, unwaith eto, y bobl y mae’n rhaid i chi allu dod i gytundeb synhwyrol â hwy. Felly, fy nehongliad i o’r papur hwn yw ei fod yn ddechrau digon synhwyrol, a phe bai wedi cael ei gyflwyno yn y ffordd honno, a’i ddisgrifio yn y ffordd honno, credaf y byddai wedi bod yn haws sicrhau ymrwymiad iddo.
Fel y dywedodd Steffan Lewis, mae’n gadael cyfres o amwyseddau ynglŷn â statws dinasyddion yr UE. A fyddant yn gallu cefnogi rhieni dibynnol? O dan ba reolau y dylai darpar briod wneud cais, er enghraifft? Ac mae mater y terfyn amser yn hollbwysig yma. Rwy’n credu’n wirioneddol fod gwleidyddion y DU sy’n dadlau y byddai terfyn amser yn y dyfodol yn arwain at fewnlif torfol o bobl i’r Deyrnas Unedig i geisio sicrhau statws preswylwyr sefydlog—mae hynny mor bell o realiti cyfoes ymfudo, lle rydym wedi gweld cwymp mewn gwirionedd yn nifer y bobl a ddaw i’r Deyrnas Unedig. Pan siaradais â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yr wythnos diwethaf, roedd eu haelodau’n awyddus i ddweud wrthyf pa mor anodd bellach yw recriwtio’r bobl sydd eu hangen arnynt i weithio yn eu busnesau. Felly, mae peryglon terfyn amser yn cael eu gorliwio’n fawr ar lefel y DU, a dylid mynd i’r afael â hynny hefyd.
A wnaethom gyhoeddi papur sefyllfa? Wel, fel y gŵyr yr Aelod, ni wnaethom hynny, ond gallaf ddweud wrtho nad oedd hynny’n golygu am funud na fu modd i ni roi ein barn yn ddiamwys i Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym na fydd hyn yn rhan o fecanwaith y Bil diddymu, ond y bydd yn rhan o Fil ar wahân, a bydd yna bethau y byddwn yn awyddus i’w dweud, ac yn awyddus i’w dweud yn gyhoeddus, cyn i unrhyw Fil o’r fath gael ei gyhoeddi.
Pwynt olaf Steffan Lewis, mewn rhai ffyrdd, yw’r un mwyaf digalon, onid e? Os mai hon oedd y rhan hawsaf, os oedd hwn yn fater roedd pawb yn cytuno bod angen inni gael cytundeb cyflym yn ei gylch, yna mae’r methiant i allu gwneud cynnydd cyflym yn y ffordd y teimlwn y byddai wedi bod yn hollol bosibl i ni ei wneud yn arwydd go ddigalon o’r anawsterau sydd o’n blaenau pan fydd angen trafod pethau llawer mwy cymhleth.