Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Llywydd, unwaith ym mhob cenhedlaeth daw achos penodol i’r golwg sy’n amlygu gwirionedd dyfnach a mwy anodd am blaid lywodraethol, yn aml—yn enwedig—pan fo’r blaid honno wedi bod mewn grym ers blynyddoedd lawer. Rwy’n meddwl am y tribiwnlys cig eidion, er enghraifft, yn Iwerddon o dan arweiniad Fianna Fáil yn y 1990au cynnar, ymchwiliad Scott yn y Llywodraeth Geidwadol, a gormod o enghreifftiau, mae’n debyg, i sôn amdanynt yn Llywodraeth Blair. Ond rydych yn deall y pwynt. Credaf fod Cylchffordd Cymru yn enghraifft o hyn. Mae rhywbeth wedi mynd o’i le’n ofnadwy yma. Ni allwn ddweud i sicrwydd beth yw hwnnw eto, ond rydym yn gwybod mai ein cyfrifoldeb ni yw gofyn y cwestiwn hwnnw a mynd at y gwir, a dyna sydd wrth wraidd gwelliant 3.
I ddechrau, fodd bynnag, hoffwn siarad yn fyr am welliant 2, sy’n llawer symlach, mewn gwirionedd, ac sy’n gofyn yn syml i’r Llywodraeth—. O ystyried y ffaith fod bron i £10 miliwn yn ôl pob tebyg wedi’i wario bellach gan y Llywodraeth ar y prosiect hwn, does bosibl na fyddai’n werth inni geisio, er parch i’r trethdalwr a’r buddsoddiad yn y prosiect hwn, cael pawb o gwmpas y bwrdd i weld a fyddai modd datrys rhai o’r problemau technegol y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt yn ei ddatganiad ar 27 Mehefin.
Nawr, gallai ddweud, ‘Wel, edrychwch, rydym wedi cael y parc technoleg allan ohono’. Rhaid i mi ddweud er hynny fod y syniad mai adeiladu stadau diwydiannol yn unig yw’r ateb i’n problemau economaidd—wyddoch chi, mae’n anhygoel. Oherwydd, pe bai hynny’n wir, ni fyddai gennym unrhyw broblemau economaidd yng Nghymru. Ym maes datblygu economaidd, fe’i gelwir yn strategaeth y cae breuddwydion, ar ôl y ffilm Kevin Costner am ffermwr o Iowa yn ceisio creu ac adeiladu maes pêl fas mewn cae ŷd yn Iowa—’Adeiladwch ef, ac fe ddônt’. Nid ydynt yn dod. Yr holl bwynt am glystyrau yw bod yn rhaid i chi gael magned. Darllenwch eich Michael Porter. Rwy’n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi talu £250,000 iddo am strategaeth clystyrau yn 2002; fe’i cefais am ddim pan astudiais gydag ef yn Ysgol Fusnes Harvard. A’r hyn y byddai’n ei ddweud wrthych yw, ‘Edrychwch, ni ellir creu clystyrau allan o ddim byd’. Yr holl bwynt am Gylchffordd Cymru yw ei fod yn creu labordy awyr agored, man profi a fyddai’n fagned o bosibl. Gallwch ffurfio’ch barn eich hun ar ba mor gywir neu anghywir yw hynny, ac mae rhai Aelodau yn amheus. Ond yn sicr, hebddo, nid yw’n gweithio. Felly, does bosibl na ddylai Llywodraeth Cymru gyfarfod o gwmpas y bwrdd i weld a oes modd datrys y problemau hyn.
Gadewch i ni droi at y galwadau am ymchwiliad annibynnol, a wnaed gan y blaid Geidwadol, UKIP, a fy mhlaid fy hun. Cafwyd cyfres o ddatganiadau camarweiniol gan y Llywodraeth—yr ystod lawn o gymylu’r gwir i ddatganiadau sy’n anwir a dim llai, datganiadau y byddai’r Llywodraeth wedi gwybod nad ydynt yn wir, ac mae gennym 19 o eiriau yn Thesawrws Roget i ddisgrifio hynny, y rhan fwyaf ohonynt yn anseneddol, felly nid wyf am brofi amynedd y Cadeirydd. Ond fe af drwy rai o’r enghreifftiau. Efallai ein bod wedi clywed un yn gynharach, gyda llaw. Dywedwyd wrthym na allai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol roi datganiad diffiniol o ran mantolen. Rydym bellach yn gwybod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gofyn am ddyfarniad dros dro mewn perthynas â’i phrosiect ei hun yn Felindre, ond ni chafwyd ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag a oeddech wedi dilyn yr un broses i gael dyfarniad dros dro ar Gylchffordd Cymru.
Yr argraff a grëwyd yr wythnos diwethaf, o ran y parc technoleg fodurol, oedd bod TVR ac Aston Martin wedi ymrwymo i’r parc technoleg heb Gylchffordd Cymru. Ac eto, bydd y cofnod yn dangos, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oeddent yn gwybod am hyn nes i chi godi ar eich traed. Rwy’n credu mai dyna a ddengys y cofnod.
Nawr, gofynnais y cwestiwn am mai’r hyn a welsom drwy gydol y broses hon yw’r Llywodraeth yn symud y pyst gôl ac yna’n cael gwared ar yr ôl traed. Gofynnais pwy gynigiodd warant o 80 y cant—hwnnw oedd yr ail gynnig a wrthodwyd. Cefais wybod gan y Llywodraeth mai’r cwmni a awgrymodd hyn mewn dogfen ddyddiedig 15 Ebrill 2016. Yna, anfonodd Cyngor Sir Fynwy lythyr ataf a oedd yn profi mewn gwirionedd mai’r Llywodraeth a wnaeth. Ysgrifennodd Mick McGuire at Michael Carrick ar 7 Ebrill, cyn y dyddiad hwnnw, yn awgrymu, ac rwy’n dyfynnu, ‘Rwyf wedi siarad â swyddfa breifat y Prif Weinidog, ac maent wedi cadarnhau ei fod yn fodlon i swyddogion fwrw ymlaen gyda Chylchffordd Cymru ac Aviva ar gynllun busnes B, cynllun amgen ymarferol sy’n sicrhau bod y risg yn cael ei rhannu’n decach. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae’r meysydd sydd angen i chi eu hystyried yn cynnwys y dylai’r warant i Aviva fod yn 80 y cant neu lai’.
A’r mater mwyaf difrifol, wrth gwrs, yw’r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog yn ystod yr ymgyrch etholiadol, pan fo’n rhoi’r rheswm dros wrthod y cynnig cyntaf fel hyn: ‘Yr hyn a ddigwyddodd yn wreiddiol oedd ein bod yn chwilio am warant o £30 miliwn. Aeth yn £357 miliwn.’ Pan ofynnwyd iddo pa bryd y digwyddodd hynny, dywedodd ‘yn ystod y dyddiau diwethaf’ ac ailadroddodd hynny mewn cyfweliad gyda ‘The Western Mail’ ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Ac eto rydym bellach yn gwybod, gan fod gennym lythyr oddi wrth Aviva, sy’n dweud hyn, Llywydd:
nid yw’r modd y cafodd y cytundeb ei wrthod yn adlewyrchu’n dda ar Aviva Investors. Yn enwedig gan iddynt ddweud ein bod wedi gofyn am ddigollediad o 100% ychydig ddyddiau cyn i’r cynnig gael ei wrthod, er bod y cytundeb wedi’i lunio gyda Llywodraeth Cymru (drwy weision sifil) ers misoedd lawer ac ni newidiodd dim yn ein strwythur cyllido yn ystod y cyfnod cyn y cyhoeddiad hwn.
Nawr, os yw’r hyn y mae Aviva yn ei ddweud wrthym yn wir, rydym wedi cael ein camarwain yn y modd mwyaf difrifol posibl. Dyna pam y mae arnom angen ymchwiliad annibynnol.