7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Prosiectau Adfywio

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:44, 5 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Gallaf ychwanegu at hynny gyda datganiad arall a ddigwyddodd yn natganiad diweddaraf Ysgrifennydd y Cabinet i’r Cynulliad hwn, lle y dywedodd hefyd fod lefel y risg ariannol a ysgwyddir gan y sector preifat yn llai na 50 y cant, ac eglurodd:

‘Mae hynny oherwydd y byddai’r elfen warant o £210 miliwn yn cario risg uwch na rhannau eraill y pecyn ariannol’, nad yw’n bosibl ei fod yn wir, gan fod £48 miliwn o risg ecwiti yma nad yw wedi’i ddiogelu o gwbl ac sy’n mynd i lawr y draen os yw’r prosiect yn methu, a £47 miliwn arall o ddyled hefyd sy’n ddarostyngedig i warant y Llywodraeth ei hun. Felly, roedd hwnnw’n anghywirdeb ffeithiol hefyd, ar ben hynny. Nid wyf hyd yn oed yn deall o ble y daw ffigur y ddyled, ond mae hwnnw’n fanylyn y gallwn ei archwilio ar achlysur arall. Ond ffolineb sylfaenol y sefyllfa rydym ynddi yn awr yw nad oes gofyn i’r Llywodraeth roi ceiniog ymlaen llaw drwy gyllid buddsoddi i’r prosiect hwn, er ein bod yn gwybod bellach, o’r boced gefn, fel y disgrifiais yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe—disgrifiad a wrthodwyd gan y Prif Weinidog—gwyddom bellach fod hwnnw’n cael ei ddarparu o gronfa wrth gefn gyffredinol y Llywodraeth y mae’n deg ei disgrifio fel poced gefn, rwy’n meddwl. Nid oeddem yn gwybod bod y £100 miliwn hwn yn swatio yno heb ei gyffwrdd ac ar gael ar gyfer unrhyw gynllun hudol y gellid ei greu mewn pum munud i’w wastraffu ar brosiect nad oes neb ei eisiau ar hyn o bryd. Ac os bu achos erioed o’r angen am ddiwydrwydd dyladwy, dylid ei wneud ar y prosiect y mae’r Llywodraeth yn awr yn bwriadu darparu nid yn unig rhwymedigaeth ddigwyddiadol, ond rhwymedigaeth wirioneddol ar ei gyfer am y 10 mlynedd nesaf, a fyddai ynddo’i hun ar draul ysgolion ac ysbytai a’r holl bethau eraill y maent yn honni na allant eu hariannu pe baent yn bwrw ymlaen ar brosiect Cylchffordd Cymru.

Felly, fel y disgrifiais yr wythnos diwethaf, rydym bellach yn gwario llawer iawn o arian ar gasgliad o siediau gwag, yn hytrach na chael cylchffordd rasio fyd-eang, fel y dywedodd Adam Price yn gywir, inni allu denu, fel clwstwr, nifer o gwmnïau modurol yn ei sgil i fanteisio ar yr enwogrwydd a allai ddeillio o hynny o bosibl. Pam y byddent yn dod i safle gwag yng Nglynebwy heb ddim sy’n berthnasol i’r hyn y bwriadant ei wneud yno? Felly, rwy’n credu bod y Llywodraeth hon wedi gwneud cam â phobl Glynebwy, ac wedi gwneud cam â phobl Cymru, ac ar ôl 20 mlynedd, rwy’n meddwl ein bod wedi gweld digon ar y Llywodraeth hon, ac mae’n bryd eu bod yn mynd.