Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi, David, am grybwyll coetir Ysbryd Llynfi. Roedd yn ymweliad gwych ac rwy’n falch eich bod yn hapus iawn gyda’r hyn a weloch yno. Rwy’n credu ei bod yn un ffordd bosibl ymlaen o ran adfywio.
Byddaf yn cefnogi gwelliant 1, er gwaethaf protestiadau gan Russell, gan fy mod yn credu ei fod yn adlewyrchu teimladau Llafur ar adfywio yn well, ac yn daclusach hefyd mae’n debyg. Ond rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yng ngwelliant 1 ar y parc busnes technoleg fodurol yng Nglynebwy, er fy mod ychydig yn bellach i’r gorllewin, ac rwyf hefyd yn croesawu bargen dwf gogledd Cymru, er fy mod i’n llawer pellach i’r de. Ond rwy’n mynd i fod ychydig yn fwy plwyfol yn awr. Felly, ar gynlluniau adfywio a’r tasglu gweinidogol, gadewch i mi gyflwyno rhai awgrymiadau gofalus yn fy ardal yn Ogwr y gobeithiaf y byddant yn cyrraedd clust y Gweinidogion.
O ran seilwaith trafnidiaeth, rwyf wrth fy modd fod y gwasanaeth ar y Sul ar reilffordd Maesteg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bellach yn cael ei gynnwys yn y fasnachfraint newydd—mae’n ddatblygiad pwysig—a hefyd mae gwaith ar y gweill ar opsiynau i gynyddu amlder ar y rheilffordd hon. Mae’r rhain yn ddatblygiadau mawr i ymgorffori rheilffordd Llynfi yn rhan o brosiect metro de Cymru a chael pobl at eu gwaith yn ogystal ag at gyfleoedd eraill. Ond fel rhan o hyn, gyda llaw, mae angen inni hefyd ddatrys y broblem 5 mya—ie, problem 5 mya—gyda’r seilwaith rheilffyrdd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Nhon-du. Mae gard yn disgyn gyda’i allwedd o’r caban signalau bob bore wrth i mi deithio, er mwyn ei throsglwyddo i yrrwr y trên pan fydd y trên ar stop. Rydym yn codi llaw, ac mae’n hyfryd o hen ffasiwn, ac ychydig fel ‘The Railway Children’. Mae’n ddymunol o hen ffasiwn yn wir, ond prin yn rhan o’r weledigaeth o’r metro a’r rheilffordd fodern rydym am eu gweld. Nid wyf yn credu mai dyna yw gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet chwaith. Mae’n 5 mya ac yna stop.
Mewn gwirionedd, wrth i’r opsiynau ar gyfer y metro a masnachfraint newydd Cymru a’r gororau gael eu llunio, mae angen i ni ragweld hefyd—ac mae angen i Trafnidiaeth Cymru a chynigwyr newydd ragweld—ffurf trafnidiaeth yn y rhanbarth yn y dyfodol. Felly, rydym am i reilffordd Maesteg fod yn rhan bendant o Fetro de Cymru, a bydd y gwasanaeth ar y Sul a gwella amlder yn helpu i wneud hynny, ond dechrau’n unig ydyw. I gael pobl i fyny ac i lawr ac ar draws y cymoedd hyn i’r swyddi ar hyd yr M4, mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol. Felly, yn gyntaf—ac mae hwn yn gais diedifar—beth am inni yn gyntaf gyflwyno’r bysiau cyflym cysylltiedig iawn, y tocynnau cyffredinol ac yn y blaen nad ydynt yn drenau a thramiau yn y cymoedd ychydig yn bellach i’r gorllewin? Oherwydd os ydych yn byw yng nghymunedau Evanstown neu Price Town sy’n gymharol anghysbell, er nad ydynt ond 25 munud o’r M4 mewn car wrth deithio’n ddirwystr am hanner nos heb unrhyw dagfeydd, os yw’r daith bws i’r gwaith yn ystod oriau brig yn cymryd dros awr, os yw’n wasanaeth anfynych neu os nad yw’n rhedeg yn ddigon hwyr neu’n ddigon cynnar i fynd â chi i’ch gwaith, neu’n galw am gysylltiad neu ddau, a heb ei gydamseru ag amserau trenau neu ddulliau eraill o deithio, wel, rydych mor bell o swydd ag unrhyw un arall mewn unrhyw gwm yn ne Cymru.
Yn fwy sylfaenol, mae tri chwm gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr yn arllwys yn bennaf i Ben-y-bont ar Ogwr, yn wahanol i’r cymoedd eraill i’r dwyrain, sy’n arllwys yn bennaf i Gaerdydd. Nawr, fel y cyfryw, byddwn yn croesawu’n fawr ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i syniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â chanolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle y gall dulliau teithio amlfoddol gydgyfeirio yma ac anelu wedyn tua’r dwyrain a’r gorllewin, tuag at Gaerdydd a Chasnewydd i un cyfeiriad a thuag at Gastell-nedd ac Abertawe i’r cyfeiriad arall, neu’r de, mewn gwirionedd, i’r Fro yn ogystal ag ardal ddeheuol Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai’r ail ganolfan drafnidiaeth hon ar hyd coridor yr M4 yn gwella metro de Cymru yn sylweddol, ac yn gwneud cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr a’r arfordir a Bro Morgannwg yn rhan annatod o’r metro.
Ar y fasnachfraint newydd, gadewch i ni obeithio y bydd y cynigwyr llwyddiannus yn cyflwyno opsiynau a all ymestyn y gwasanaeth, boed yn dramiau a threnau neu’n opsiynau arloesol eraill, ar hyd ac ar draws y cymoedd hyn, ond hefyd i ranbarth ehangach Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt. Ni fydd meddwl anhyblyg hen ffasiwn ar hyd seilwaith rheilffyrdd traddodiadol caled yn diwallu anghenion ein hetholwyr, na’n hangen i’w gwneud yn hawdd i fwy o bobl barcio eu ceir a theithio’n rhwydd ar opsiynau trafnidiaeth sy’n well i’r amgylchedd. Yn nhasglu gweinidogol y Cymoedd, mae opsiynau i gryfhau’r broses o adfywio cymunedau cymoedd Llynfi, Ogwr, Garw a Gilfach yn hanfodol. Mae lefelau amddifadedd lluosog ac ynysu oddi wrth swyddi a chyfleoedd eraill lawn mor amlwg yn y rhannau hyn o’r cymoedd uchaf ag yn unrhyw le arall yn ne Cymru. Beth bynnag a ddaw o’r tasglu, rhaid cydnabod hyn a darparu’r un offerynau adfywio economaidd ag sydd ar gael i bob ardal arall.
Mae adfywio economaidd yn ymwneud â symud swyddi’n agosach at bobl neu bobl yn agosach at swyddi. Mae gan gymoedd gogleddol Pen-y-bont ar Ogwr fantais o fod yn weddol agos, fel yr hed y frân, at goridor yr M4. Ond yn anffodus, Llywydd, ychydig o fy etholwyr sy’n hedfan fel brain. Maent yn teithio ar hyd ffyrdd un-lôn gyda thagfeydd ar adegau brig. Maent ar reilffordd un trac, un trên yr awr. Er mwyn lleihau’r pellter rhwng pobl a swyddi a chyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu sgiliau, rwy’n gofyn yn syml i Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a darparwyr trafnidiaeth eraill barhau i weithio gyda mi a fy nau awdurdod lleol a chymunedau lleol i wella seilwaith trafnidiaeth ac adfywio’r trefi a’r cymunedau hyn yn y Cymoedd ledled Ogwr. Diolch yn fawr.