Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr iawn, ac rydw i’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl yma heddiw ac i gynnig y cynnig.
Ym mis Mawrth eleni, fe wnes i gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Cyrraedd y Miliwn’, a oedd wedi ei lunio gan brif asiantaeth polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru, sef IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith. Mi oeddwn i’n awyddus i gyfrannu i’r drafodaeth wrth i’r Llywodraeth fynd ati i lunio’r strategaeth a fydd yn tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn erbyn 2050. Mi oeddwn i yn ceisio crynhoi’r prif flaenoriaethau strategol y mae angen eu gwau i’w gilydd i greu strategaeth lwyddiannus. Roedd cael help cynllunwyr iaith profiadol yn hanfodol, ac mae’n bwysig defnyddio eu harbenigedd nhw yn llawn wrth symud ymlaen.
Mae’r cynnig sydd gerbron heddiw yn gyfle i grisialu rhai o’r prif faterion, ac yn eu tro bydd fy nghyd-Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru yn edrych ar addysg, cynnal a datblygu’r economi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd, deddfwriaeth a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae yna lawer mwy na hynny yn y ddogfen ‘Cyrraedd y Miliwn’, ac mae pob un ohonoch chi wedi cael copi o’r ddogfen, ac y mae hi ar gael ar-lein.
Gair am y gwelliannau sydd wedi cael eu cyflwyno. Mae gwelliannau Llafur a UKIP yn dileu ein cynnig ni yn gyfan gwbl, ac felly ni fyddwn ni’n eu cefnogi nhw. Disgrifiad ydy gwelliant Llafur o rai o’r camau sydd ar y gweill neu sydd wedi digwydd. Edrychwn ymlaen i weld cynnwys y Papur Gwyn a’r syniadau ar gyfer Bil y Gymraeg newydd. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at bori drwy’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr yr wythnos nesaf, ac mae’r bwrdd cynllunio yn gam i’r cyfeiriad iawn, ond cam yn unig.
Mae gwelliant UKIP yn negyddol ac yn wag o unrhyw uchelgais a gweledigaeth. Mae gwelliant y Ceidwadwyr am yr economi yn gwanhau ein cynnig ni. Mae angen i’r iaith fod yn rhan annatod o gynllunio economaidd. Mae o’n llawer, llawer mwy na’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes. Yn wir, mae’r gwelliant yma yn crynhoi yn berffaith y diffyg crebwyll cyffredinol sydd yna am y cysylltiad rhwng y Gymraeg ac economi hyfyw yn yr ardaloedd lle y mae hi’n iaith bob dydd y cymunedau. Ein dadl ni ydy, os ydy’r Gymraeg am gynyddu, rhaid diogelu’r cadarnleoedd, ac i wneud hynny rhaid cael swyddi o ansawdd yn y llefydd hynny i atal allfudo ac i greu ffyniant economaidd a chymdeithasol.
O ran gwelliant y Ceidwadwyr am rôl Comisiynydd y Gymraeg, nid yw adolygu yn gyfystyr â chryfhau. Felly, nid ydym ni’n cefnogi hwn. Ac o ran ystyried diben safonau’r Gymraeg, rydym ni’n gweld hyn hefyd yn arwydd o awydd i wanhau yn hytrach na chryfhau. Fe ellid dehongli’r gwelliannau yma gan y Ceidwadwyr fel diffyg ymrwymiad ganddyn nhw at y Gymraeg, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n awyddus i’n perswadio ni fel arall. Yn syml, felly, rydym ni’n erbyn y gwelliannau.
Rydym ni’n credu bod ein cynnig ni yn un cynhwysfawr, ond nid yw’n trafod pob agwedd o bell ffordd. Mae sawl agwedd i’r gwaith o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn yr adroddiad, ‘Cyrraedd y Miliwn’, rydym ni’n crynhoi fel a ganlyn:
bydd yn rhaid: cynnal y niferoedd a’r canrannau o siaradwyr a’r defnyddwyr cyfredol o’r Gymraeg; atgynhyrchu siaradwyr Cymraeg drwy gymdeithasoli plant yn y teulu a’r gymdogaeth leol; cynhyrchu siaradwyr newydd trwy’r gyfundrefn addysg a gofal plant ffurfiol ac anffurfiol—yn ddarpariaeth cyn-ysgol, ysgolion, colegau a darpariaethau allgyrsiol; creu siaradwyr newydd o blith y gweithlu Cymreig.
Wrth gynllunio i nifer cynyddol o bobl fod yn siaradwyr Cymraeg bydd rhaid sicrhau bod yna ddigon o gyfleoedd i bobl (ac i bobl ifanc yn enwedig) ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd—yn y cartref, wrth ddilyn cyrsiau addysgol a hyfforddiant, yn y gymdogaeth a’r gymuned leol, yn y gweithle ac ar gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg gwybodaeth.
Bydd hefyd angen sicrhau amodau cymdeithasol ac economaidd hyfyw i gynnal a chynyddu’r nifer o ardaloedd sydd â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg, gan blethu amcanion polisi a chynllunio iaith gyda strategaethau a datblygiadau economaidd yn yr ardaloedd hynny. Yn ogystal, bydd yn rhaid hyrwyddo a chefnogi rhwydweithiau cymdeithasol newydd o siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd llai Cymraeg eu hiaith.
Yn gefnlen i’r cyfan bydd rhaid sicrhau’r amodau gorau er mwyn i siaradwyr y Gymraeg medru ei defnyddio. Bydd hynny’n golygu adeiladu ar y bensaernïaeth ddeddfwriaethol gyfredol er mwyn sicrhau a chryfhau statws y Gymraeg, lledu a hwyluso ei defnydd mewn peuoedd hen a newydd a datblygu hawliau a hyder siaradwyr Cymraeg i’w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd beunyddiol ein gwlad.
Mae hyn yn cynnwys ehangu’r safonau i’r sector preifat, gan gynnwys y sector telathrebu, banciau, a’r archfarchnadoedd. Trosolwg ar y cychwyn fel hyn, ac rydw i’n edrych ymlaen at weddill y ddadl.