– Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliant 2 yn enw Neil Hamilton, a gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, a rydw i’n galw ar Sian Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6356 Rhun ap Iorwerth
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2. Yn nodi’r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn glir rhai o’r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.
3. Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:
a) gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg;
b) sicrhau bod ystyriaethau i’r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a’r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;
c) gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg ac ehangu safonau’r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;
d) sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo’r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a’r economi.
Diolch yn fawr iawn, ac rydw i’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl yma heddiw ac i gynnig y cynnig.
Ym mis Mawrth eleni, fe wnes i gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Cyrraedd y Miliwn’, a oedd wedi ei lunio gan brif asiantaeth polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru, sef IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith. Mi oeddwn i’n awyddus i gyfrannu i’r drafodaeth wrth i’r Llywodraeth fynd ati i lunio’r strategaeth a fydd yn tyfu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn erbyn 2050. Mi oeddwn i yn ceisio crynhoi’r prif flaenoriaethau strategol y mae angen eu gwau i’w gilydd i greu strategaeth lwyddiannus. Roedd cael help cynllunwyr iaith profiadol yn hanfodol, ac mae’n bwysig defnyddio eu harbenigedd nhw yn llawn wrth symud ymlaen.
Mae’r cynnig sydd gerbron heddiw yn gyfle i grisialu rhai o’r prif faterion, ac yn eu tro bydd fy nghyd-Aelodau yng ngrŵp Plaid Cymru yn edrych ar addysg, cynnal a datblygu’r economi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd, deddfwriaeth a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae yna lawer mwy na hynny yn y ddogfen ‘Cyrraedd y Miliwn’, ac mae pob un ohonoch chi wedi cael copi o’r ddogfen, ac y mae hi ar gael ar-lein.
Gair am y gwelliannau sydd wedi cael eu cyflwyno. Mae gwelliannau Llafur a UKIP yn dileu ein cynnig ni yn gyfan gwbl, ac felly ni fyddwn ni’n eu cefnogi nhw. Disgrifiad ydy gwelliant Llafur o rai o’r camau sydd ar y gweill neu sydd wedi digwydd. Edrychwn ymlaen i weld cynnwys y Papur Gwyn a’r syniadau ar gyfer Bil y Gymraeg newydd. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at bori drwy’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr yr wythnos nesaf, ac mae’r bwrdd cynllunio yn gam i’r cyfeiriad iawn, ond cam yn unig.
Mae gwelliant UKIP yn negyddol ac yn wag o unrhyw uchelgais a gweledigaeth. Mae gwelliant y Ceidwadwyr am yr economi yn gwanhau ein cynnig ni. Mae angen i’r iaith fod yn rhan annatod o gynllunio economaidd. Mae o’n llawer, llawer mwy na’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes. Yn wir, mae’r gwelliant yma yn crynhoi yn berffaith y diffyg crebwyll cyffredinol sydd yna am y cysylltiad rhwng y Gymraeg ac economi hyfyw yn yr ardaloedd lle y mae hi’n iaith bob dydd y cymunedau. Ein dadl ni ydy, os ydy’r Gymraeg am gynyddu, rhaid diogelu’r cadarnleoedd, ac i wneud hynny rhaid cael swyddi o ansawdd yn y llefydd hynny i atal allfudo ac i greu ffyniant economaidd a chymdeithasol.
O ran gwelliant y Ceidwadwyr am rôl Comisiynydd y Gymraeg, nid yw adolygu yn gyfystyr â chryfhau. Felly, nid ydym ni’n cefnogi hwn. Ac o ran ystyried diben safonau’r Gymraeg, rydym ni’n gweld hyn hefyd yn arwydd o awydd i wanhau yn hytrach na chryfhau. Fe ellid dehongli’r gwelliannau yma gan y Ceidwadwyr fel diffyg ymrwymiad ganddyn nhw at y Gymraeg, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n awyddus i’n perswadio ni fel arall. Yn syml, felly, rydym ni’n erbyn y gwelliannau.
Rydym ni’n credu bod ein cynnig ni yn un cynhwysfawr, ond nid yw’n trafod pob agwedd o bell ffordd. Mae sawl agwedd i’r gwaith o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac yn yr adroddiad, ‘Cyrraedd y Miliwn’, rydym ni’n crynhoi fel a ganlyn:
bydd yn rhaid: cynnal y niferoedd a’r canrannau o siaradwyr a’r defnyddwyr cyfredol o’r Gymraeg; atgynhyrchu siaradwyr Cymraeg drwy gymdeithasoli plant yn y teulu a’r gymdogaeth leol; cynhyrchu siaradwyr newydd trwy’r gyfundrefn addysg a gofal plant ffurfiol ac anffurfiol—yn ddarpariaeth cyn-ysgol, ysgolion, colegau a darpariaethau allgyrsiol; creu siaradwyr newydd o blith y gweithlu Cymreig.
Wrth gynllunio i nifer cynyddol o bobl fod yn siaradwyr Cymraeg bydd rhaid sicrhau bod yna ddigon o gyfleoedd i bobl (ac i bobl ifanc yn enwedig) ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd—yn y cartref, wrth ddilyn cyrsiau addysgol a hyfforddiant, yn y gymdogaeth a’r gymuned leol, yn y gweithle ac ar gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg gwybodaeth.
Bydd hefyd angen sicrhau amodau cymdeithasol ac economaidd hyfyw i gynnal a chynyddu’r nifer o ardaloedd sydd â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg, gan blethu amcanion polisi a chynllunio iaith gyda strategaethau a datblygiadau economaidd yn yr ardaloedd hynny. Yn ogystal, bydd yn rhaid hyrwyddo a chefnogi rhwydweithiau cymdeithasol newydd o siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd llai Cymraeg eu hiaith.
Yn gefnlen i’r cyfan bydd rhaid sicrhau’r amodau gorau er mwyn i siaradwyr y Gymraeg medru ei defnyddio. Bydd hynny’n golygu adeiladu ar y bensaernïaeth ddeddfwriaethol gyfredol er mwyn sicrhau a chryfhau statws y Gymraeg, lledu a hwyluso ei defnydd mewn peuoedd hen a newydd a datblygu hawliau a hyder siaradwyr Cymraeg i’w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd beunyddiol ein gwlad.
Mae hyn yn cynnwys ehangu’r safonau i’r sector preifat, gan gynnwys y sector telathrebu, banciau, a’r archfarchnadoedd. Trosolwg ar y cychwyn fel hyn, ac rydw i’n edrych ymlaen at weddill y ddadl.
Rwyf wedi dethol y chwech gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Rydw i’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn at ddibenion ymgynghori’r haf yma ar y ddarpariaeth ar gyfer Bil y Gymraeg newydd.
Yn cydnabod y camau sydd eisoes wedi’u cymryd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws cymunedau a gweithleoedd, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.
Yn croesawu sefydlu bwrdd cynllunio er mwyn ymgynghori ar raglen genedlaethol i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 2—Neil Hamilton
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y bydd mynd yn groes i farn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar unrhyw obaith fydd gan strategaeth Llywodraeth Cymru o lwyddo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau:
a) bod unrhyw newidiadau i addysg bresennol cyfnodau allweddol 1 i 5 a darpariaeth gofal plant yn cynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
i) gyda’r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post; a
ii) gyda’r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; a
b) na roddir blaenoriaeth i farn trydydd parti, asiantau na chomisiynwyr, gan gynnwys y rhai sy’n awgrymu eu bod yn cynnig cyngor arbenigol ar y ddarpariaeth Gymraeg, dros ddymuniadau trigolion lleol a rhieni.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae llawer yng nghynnig Plaid Cymru y gallwn gytuno ag ef, a’r rheswm pam y rhoesom ‘dileu popeth’ yn ein gwelliant yw oherwydd mai dyna beth y mae Plaid Cymru bob amser yn ei wneud pan fydd yn ceisio gwella ein cynigion. Felly, rwy’n ofni ein bod yn talu nôl iddynt drwy wneud yr un peth. Ond nid ydym erioed wedi llwyddo eto i gael gwelliant wedi’i basio. Felly, rwy’n credu mai bygythiad braidd yn ffug i Blaid Cymru yw hwn. Rwy’n canmol y ddogfen a gynhyrchodd Siân Gwenllian, ‘Cyrraedd y Miliwn’, y credaf ei fod yn gynllun a strategaeth hynod o ddiddorol, eang a chynhwysfawr ar gyfer cyflawni’r hyn y credaf ei fod yn nod cyffredin i bob un ohonom yn y Cynulliad hwn. Rwyf wedi bod yn gefnogwr cadarn i uchelgais Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rwyf wedi dweud yn aml fy mod yn meddwl bod y Gweinidog dysgu gydol oes wedi hybu’r polisi hwn yn effeithiol iawn gyda’r sensitifrwydd sy’n nodwedd fwyaf amlwg ynddo. Ac rwy’n meddwl—[Torri ar draws.] Na, roedd wedi’i olygu’n garedig yn yr achos hwn. Rwy’n credu mai ymagwedd gyffredinol y Llywodraeth tuag at y pwnc hwn yw’r un gywir.
Er fy mod yn cytuno â llawer iawn o’r hyn sydd yn y ddogfen hon, mae un neu ddau o bethau’n peri pryder i mi. Yn benodol, mae un ohonynt yn cael ei grybwyll yn y cynnig ei hun ar ymestyn safonau’r Gymraeg i’r sector preifat. Er fy mod yn cytuno, ar gyfer cwmnïau telathrebu a banciau a chwmnïau mawr o’r math hwnnw, fod ganddynt y seilwaith i allu ymdopi â’r beichiau ariannol a gweinyddol ychwanegol y bydd hynny’n eu creu, mae’n stori wahanol iawn, wrth gwrs, i fusnesau llai. Felly, mae angen i ni gael mwy o fanylion yn yr elfen honno o’r cynnig cyn y gallem ei gefnogi. Felly, rwy’n cydymdeimlo’n fras â nod Plaid Cymru hyd yn oed yn hynny o beth, ond rwy’n credu bod angen inni gael mwy o gnawd ar yr esgyrn cyn y gallwn ei gefnogi.
Diben ein gwelliant oedd tynnu sylw at yr hyn y credaf ei bod yn egwyddor sylfaenol o bolisi mewn perthynas ag addysg, y dylid rhoi’r ystyriaeth lawnaf sy’n bosibl i ddymuniadau rhieni. Nawr, rwy’n cytuno y gallai hynny, mewn rhai achosion, wrthdaro yn erbyn amcanion eraill y cytunwn yn eu cylch. Ond yn y bôn, nid ein plant ni yw’r plant sy’n destun y ddadl hon—o ran addysg, beth bynnag; plant eu rhieni ydynt, ac mae Deddf Addysg 1996, cyn datganoli rhaid cyfaddef, a nodai rwymedigaeth gyfreithiol y Llywodraeth, yn dweud bod disgyblion i gael eu haddysgu’n unol â dymuniadau rhieni. Yn amlwg, mae hynny cyn belled ag sy’n bosibl yn weinyddol. Nid yw’n bosibl parchu dymuniadau rhiant ym mhob achos, ond yn y bôn, dyna y dylem geisio ei wneud. Ac wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydym wedi cael y ddau achos gwrthgyferbyniol yn y flwyddyn ddiwethaf, sef achos Llangennech yn Llanelli ac wrth gwrs, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod addysg ym Mhowys i barhau addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Cefnogais y rhieni yno oherwydd mai dyna roeddent ei eisiau. Yn yr un modd, cefnogais y rhieni yn Llangennech a oedd eisiau i benderfyniad gwahanol gael ei wneud mewn perthynas â newid y cyfrwng addysgu o’r Saesneg i’r Gymraeg yn ysgol gynradd Llangennech. Ac rwy’n credu mai’r ffordd ymlaen yw drwy berswâd, ac rwy’n credu y dylai hyn gael ei ariannu’n briodol. Rwy’n cytuno, unwaith eto, â’r rhan o’r cynnig a’r ddogfen hon y bydd y strategaeth iaith Gymraeg yn ddrud, ond rwy’n credu ei fod yn draul sy’n werth mynd iddo, oherwydd bod iaith yn ganolog i ddiwylliant cenedl, ac mae’n rhodd unigryw, na ellir, o’i cholli, ei hadfer heb yr anhawster mwyaf posibl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn werth inni wneud yr ymdrech fwyaf posibl er mwyn cyflawni’r amcanion hynny.
Ac mae llygedyn o obaith yn hyn, oherwydd, fel y dywed yr adroddiad, rhwng 2001 a 2011 tyfodd nifer y plant tair i bedair oed y cofnodwyd eu bod yn siaradwyr Cymraeg o 18.8 y cant i 23.3 y cant, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny, ac rwy’n cymeradwyo’r amcan a nodwyd yn yr adroddiad o gynyddu’r ffigur hwnnw i 35 y cant o fewn cyfnod rhesymol, gan mai dyna’r ffordd y bydd yr iaith yn cael ei chynnal. Rwy’n gwybod o fy mhrofiad personol ei bod yn llawer anos dysgu iaith y tu hwnt i’r blynyddoedd cynnar, ac felly, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cymdeithasoli plant, fel y dywedodd Sian Gwenllian yn ei chyflwyniad i’r ddadl hon, mor gynnar â phosibl ac yn eu gwneud yn gyfarwydd â’r iaith yn reddfol. Dyna’r ffordd ymlaen.
Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. A diolch, hefyd, i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw ac am gomisiynu’r adroddiad y cyfeirir ato yn y cynnig. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r adroddiad wedi dylanwadu ar waith y Gweinidog. Ac, wrth gwrs, mae angen clywed gan y Gweinidog ar hyn, achos mae awdurdodau lleol yn paratoi eu strategaethau iaith Gymraeg eu hunain hyd at 2020 i gydymffurfio â’r safonau heb unrhyw ddealltwriaeth o beth bydd gofynion Llywodraeth Cymru ar ôl diwedd y flwyddyn.
Mae gennym welliannau, felly byddwn yn gwrthwynebu’r cynnig, ond nid ydym ni’n elyniaethus i fyrdwn cyffredinol y cynnig. Hoffwn gefnogi pwynt 3(a). Rwyf wedi bod yn galw am gyflwyniad ystyrlon, gorfodol i’r Gymraeg mewn lleoliadau Dechrau’n Deg am rai blynyddoedd bellach, ond yn ogystal â chyflwyno sgiliau iaith Gymraeg fel rhan annatod o gyrsiau galwedigaethol megis gofal cymdeithasol, lletygarwch, gwallt a harddwch, hyd yn oed, ac, wrth gwrs, gofal plant. Ac er y byddai rhuglder y safon aur—cawn ni weld—byddai fy mhrif ffocws i ar hyder, ac rwy’n credu ein bod ni i gyd wedi dod i’r casgliad erbyn hyn os nad oes gennym yr hyder i ddefnyddio ein Cymraeg yn anghywir, nid oes cyfle i’n Cymraeg ddod yn dda.
Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein gwelliant cyntaf. Rydym yn cyflwyno hyn yn y termau hyn, Sian Gwenllian, yn rhannol oherwydd nad oeddwn yn deall beth oedd pwynt 3(b) yn ei olygu mewn gwirionedd. Os oedd am edrych am dir ffrwythlon i hyrwyddo caffael a defnyddio sgiliau iaith Gymraeg o fewn strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, wel, byddwn yn cytuno â chi. Os oedd am beidio â rholio yn ôl o’r safonau, well, byddwn i’n cytuno â chi hefyd. Os oedd am dderbyn y byddai’n rhaid i unrhyw raglen yn y diriogaeth hon fod yn amlgyflymder er mwyn adlewyrchu y bydd pawb yng Nghymru yn cael ei brynu i mewn i hyn o fannau cychwyn gwahanol, byddwn yn cytuno â chi ar hynny hefyd.
Mae gwelliant 4 yn ymwneud â Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, ac rydym yn gwahodd unwaith eto Llywodraeth Cymru i ystyried atebolrwydd y comisiynydd, yn bennaf gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi galw am rôl annibynnol iddi hi, yn atebol yn uniongyrchol i ni, nid i’r Llywodraeth. Gan fod Plaid bellach wedi croesawu’r syniad o asiantaeth hyd-braich i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, tybed os gallem weld rhyw faint o newid yn eu safbwynt blaenorol ar hyn hefyd.
Nid oedd hi mor bell yn ôl, mewn cyfarfod gyda Dyfodol, rydw i’n credu, pan oeddwn i’n dadlau o blaid asiantaeth hyd-braich i wneud gwaith hyrwyddo, ac roedd Alun Ffred yn dadlau i’r gwrthwyneb. Er fy mod yn croesawu symud i ffordd o feddwl y Ceidwadwyr Cymreig, efallai gallaf bwyso arnoch chi am hyd y braich. Os ydych chi yn sôn am gorff a fydd jest yn dilyn cyfarwyddiadau bwrdd cynllunio’r Llywodraeth, wel, nid oes bwynt symud y gwaith i ffwrdd o’r Llywodraeth. [Torri ar draws.] A allech chi adael e tan y diwedd? Nid ydw i’n siŵr os oes gyda fi ddigon o amser, sori.
Mae’n rhaid i mi ddweud, ac mae’n bwynt pwysig, a dyna pam nid ydym ni’n cytuno â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn trio ei ddweud heddiw, ar hyn o bryd, rydw i’n dal heb gael fy argyhoeddi am bwrpas y panel, a dyna pam, fel y dywedais i, nid ydw i’n cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, rwyf yn dal o blaid corff hyd-braich annibynnol i ymgymryd â’r gwaith hwn, ond gyda’r rhyddid i feddwl yn wahanol. Fodd bynnag, mae yna ddadl y gallai comisiynydd Cymraeg atebol i’r Cynulliad hwn yn hytrach nag i’r Llywodraeth hefyd ffeindio ei hunan mewn sefyllfa ddiddorol i fod yn brif hyrwyddwr yr iaith Gymraeg. Rydym ni’n dal mewn cyfnod lle mae llawer o’n hetholwyr yn canmol neu gondemnio’r Cynulliad hwn am bolisi’r iaith Gymraeg yn hytrach na’r Llywodraeth. Byddai cyfle yma i gryfhau rôl y comisiynydd, yn rhan 3(c) yn y cynnig gwreiddiol, mewn ffordd wahanol. Mae gwelliant 6 yn wahoddiad i ofyn ai eiddo’r bobl neu eiddo’r Weithrediaeth yw’r iaith Gymraeg.
Nid yw ein gwelliant 5 yn groes i ran 3(c) y cynnig. Mae jest yn gofyn am gyfnod o fyfyrio a dadansoddi cyn cymryd y cam nesaf ar safonau. Mae’r comisiynydd wedi dweud bod y cyrff a effeithir gan safonau ar hyn o bryd yn dod i arfer â’r syniad, a gobeithio y byddwn yn gweld y dystiolaeth ffurfiol i gadarnhau hynny mewn atebion i’r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn y Llywodraeth.
Mae gyda fi fwy i’w ddweud, ond nid oes yna ddigon o amser. Felly, mae’n ddrwg gennyf, Simon, hefyd.
Fel mae’n digwydd, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Mae’n dda gennyf gefnogi’r cynnig, wrth gwrs, fel y mae, a gwrthod y gwelliannau, er gwaethaf rhai o’r rhesymau sydd wedi cael eu gwneud. A gaf i ddechrau gyda hefyd nodi fy niolchgarwch a bodlonrwydd gyda phenderfyniad Cyngor Sir Powys i gadw’r ffrwd Cymraeg yn yr ysgol yn Aberhonddu, a hefyd tynnu sylw’r Cynulliad at pam y gwnaed hynny? Fe’i rhoddwyd tri rheswm dros wyrdroi’r bwriad y cau’r ffrwd Cymraeg yn Aberhonddu. Y trydydd rheswm oedd hyn: i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Felly, i fi, dyma’r tro cyntaf gweld penderfyniad cyngor sir yn cael ei wyrdroi neu newid oherwydd y bwriad yna. Rwy’n croesawu hynny, ac rydw i jest eisiau ymhelaethu ar beth sydd ymhlyg yn hynny nawr, yn enwedig ym maes addysg.
Os ŷch chi’n ystyried bod, o’r holl siaradwyr Cymraeg sy’n dros 65 ar hyn o bryd, wyth o bob 10 ohonyn nhw wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd, ac, o’r holl siaradwyr Cymraeg sydd hyd at 15, dau o bob 10 ohonyn nhw sydd wedi dysgu Cymraeg ar yr aelwyd, rŷch chi’n gweld y gwahaniaeth sydd wedi digwydd dros y cenedlaethau. Ydym, rydym ni wedi cadw’r iaith mewn ffordd ryfeddol yn y byd modern, mae’n rhaid dweud, ond rydym ni wedi ei wneud ef drwy weld trosglwyddiad o le yr oedd yr iaith yn iaith aelwyd, fferm, capel, gwaith, ac ati, i sefyllfa lle mae’r iaith yn dibynnol, i raddau helaeth iawn, ar addysg.
Nawr, nid drwg o beth yn gyfan gwbl yw hynny, achos mae yna fanteision, wrth gwrs, fel mae’n digwydd bod—manteision penodol addysgiadol—o fod yn ddwyieithog, ac nid oes ots pa ddwy iaith yr ŷch chi’n ddwyieithog ynddyn nhw. Mae yna fanteision mwy o fod yn deirieithog, hyd yn oed, ond mae tystiolaeth ryngwladol mor gryf bod bod yn ddwyieithog yn cryfhau sgiliau mathemateg, sgiliau crebwyll, sgiliau dehongli, sgiliau dadansoddi. Mae’n dda o beth bod gyda ni system, ac ein bod ni’n symud at system, addysg ddwyieithog. Ond mae hefyd yn gofyn sawl cwestiwn ynglŷn â’r ffordd rydym ni’n mynd i gyrraedd yna.
Felly, a gaf i ofyn yn gyntaf—? Byddai’n dda gen i glywed gan y Gweinidog wrth ymateb i’r ddadl yma lle mae’r cynlluniau Cymraeg mewn addysg erbyn hyn, a gwaith Aled Roberts yn edrych ar rheini i sicrhau eu bod nhw’n addas ar gyfer y targed newydd yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Jest i rannu, yn y cyd-destun yna, gyda’r Cynulliad rhai o’r pethau mae’n golygu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Ychydig o dan 100,000 sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Felly, i gyrraedd miliwn, mae yna dipyn o ffordd i fynd. Mae modd ei wneud e, dros 30 mlynedd, ond mae yna ffordd i fynd. Er enghraifft, er mwyn cyrraedd miliwn, bydd rhaid i 77.5 y cant o blant Cymru gael addysg drwy’r Gymraeg erbyn 2040. Dyna pam roedd Plaid Cymru’n dadlau yn ein maniffesto ni yn etholiad y Cynulliad diwethaf bod angen i bob un plentyn dderbyn addysg Gymraeg yng Nghymru, o leiaf yn yr ysgol gynradd, fel bod seiliau ddwyieithog i bob un plentyn yng Nghymru, ac efallai mwy o ddewis iaith yn dilyn hynny, gan ddibynnu pa ardal rydych chi’n byw ynddo fe.
Mae angen ewyllys benderfynol mewn ambell i ardal yng Nghymru. Er enghraifft, os ydych chi’n edrych o dan y ffigyrau yna, mae’n rhaid cynyddu’r ffigwr addysg Gymraeg o 10 y cant o blant saith oed yn Nhorfaen i 62 y cant; o 5.6 y cant yn y Fflint fel y mae hi ar hyn o bryd i 46.5 y cant. Nawr, nid pwynt defnyddio’r ffigyrau hyn yw collfarnu’r ardaloedd sydd ar ei hôl hi—rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwella—ond i ddangos bod modd gosod targedau, bod modd gosod targedau fesul ardal, fesul cyngor sir, fesul rhanbarth, fesul ysgol, ac mae modd, felly, mesuro. Dyna pam rydw i’n siomedig bod y Llywodraeth yn gwyrdroi ein gwelliant ni yn fan hyn sydd yn gosod allan yr angen am dargedau ac yn ceisio dweud stori eto. Wel, ie, gwerthwch stori ar bob cyfrif, ond fe awn ni am dargedau hefyd, os gwelwch yn dda, fel ein bod ni’n gallu mesuro a ydy’r miliwn yma o fewn cyrraedd mewn pum mlynedd, mewn 10 mlynedd, mewn 15 mlynedd. Dyma’r fath o ffigyrau mae’n rhaid i ni weld yn digwydd.
Wrth gwrs, rydw i wedi sôn am nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg, ond mae’n rhaid meddwl hefyd am y proffesiwn. Mae’n wir i ddweud, efallai, yn draddodiadol, mai ffermio ac addysg oedd y ddau weithlu Cymraeg eu hiaith yng Nghymru. Mae wedi syrthio yn ôl yn y ddau faes, i raddau, ond mae’n dal i fod yn wir bod un o bob tri athro yng Nghymru yn medru’r Gymraeg. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn medru’r Gymraeg. Felly, mae yna sgiliau cynhenid yna. Serch hynny, mae nifer y myfyrwyr Cymraeg sy’n hyfforddi i fod yn athrawon wedi cwympo i’r lefel isaf ers bron i ddegawd, ac mae angen hyfforddi 3,000 o athrawon ar gyfer y sector cynradd a 2,600 o athrawon ar gyfer y sector uwchradd er mwyn jest dechrau ar y cynllun o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Dyma’r swmp, dyma’r targedau a dyma’r ffordd rydym ni’n mynd i fesuro a yw’r Llywodraeth ar y trywydd iawn ai peidio.
A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i’n edrych ymlaen nawr i weld cyhoeddiad y strategaeth? Gobeithio y bydd e’n dangos ôl yr argymhellion a’r drafodaeth a gafwyd yn y pwyllgor ar y strategaeth iaith ac yn awgrymu camau penodol i’r Llywodraeth eu cymryd i mewn i ystyriaeth—yn eu plith nhw, y syniad, rydw i’n gobeithio, y bydd y strategaeth newydd yn dangos y siwrne i ni o sut rydym ni’n mynd o fan hyn i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr, ac yn gwneud hynny gyda cherrig milltir ac elfen o fanylder, fel ein bod ni’n gweld yn glir y siwrne sydd o’n blaenau ni ar gyrraedd nod uchelgeisiol iawn.
Gwnaeth Simon ac eraill sôn am bwysigrwydd addysg, ac rydw i’n mynd i sôn am hynny, ond hoffwn i, yn gyntaf, drafod y cwestiwn wnaeth Sian Gwenllian bwysleisio am y syniad o ffyniant economaidd, a bod llwyddiant a ffyniant yr iaith ynghlwm gyda ffyniant economaidd yn ein cymunedau ni. Yn fy etholaeth i mae yna lot o gymunedau sydd yn siarad Cymraeg ac mae yna lot o gymunedau sydd o fewn cof wedi siarad Cymraeg ond bellach nid yw’r iaith yn ffynnu ynddyn nhw. Mae hynny ynghlwm, i raddau, â’r patrwm o newidiadau economaidd dros y degawdau. Felly, mae angen i ni sicrhau wrth ein bod ni’n llunio’r strategaeth economaidd newydd bod pwys o fewn y strategaeth ar sut mae cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith o fewn hynny. Mae’r Llywodraeth yn gwneud gwaith da o ran cynllun Better Jobs, Closer to Home, ac efallai y dylid edrych ar hynny yn y cyd-destun ieithyddol ynghyd â’r cyd-destun rydym ni’n edrych arno fe ar hyn o bryd.
Ond o fewn y system addysg, rydw i hefyd yn gobeithio y byddwn ni’n gweld newidiadau i’r cynlluniau strategol. Yn amlwg, nid oedden nhw’n ddigon da pan gyhoeddwyd nhw yn y lle cyntaf, ac mae’r broses adeiladol sydd wedi bod yn digwydd, gobeithio, yn mynd i arwain at gynlluniau llawer mwy uchelgeisiol. Y gwir amdani yw y dylem ni fod, fel mater o egwyddor, yn ateb y galw yn llawn am addysg Gymraeg ble bynnag mae’n codi. Nid ydym yn llwyddo i wneud hynny ar hyn o bryd. Dylai hynny fod yn nod. Ond ar ben hynny, gan bod yr iaith yn ased diwylliannol, wrth gwrs, ond hefyd yn ased addysgiadol, fel rydym wedi clywed yn barod yn y ddadl yma, dylem fod yn cymryd camau penodol i greu y galw am addysg Gymraeg dros gyfnod o amser hefyd. So, mae angen y lefel honno o uchelgais er mwyn ein bod ni’n gallu cyrraedd y nod sydd o’n blaenau ni.
Fe wnaethom ni drafod yn y pwyllgor pa mor bwysig oedd addysg feithrin i gyrraedd y nod, a dylem edrych, rwy’n credu, ar beilota cyfle i rieni sydd ddim yn medru’r Gymraeg sy’n dewis danfon eu plant i gylchoedd meithrin Cymraeg, fel eu bod nhw’n cael hyfforddiant penodol yn y Gymraeg i allu cefnogi’u plant drwy siwrnai addysgiadol yn yr iaith. Mae hynny’n rhan o broses ehangach—ac mae’r strategaeth yn glir am bwysigrwydd hyn—o normaleiddio defnydd yr iaith o fewn y teulu, ynghyd ag yn y gymuned ac mewn gweithleoedd yn ehangach.
Ar lefel bersonol, tan i mi gael fy ethol i’r Cynulliad, nid oeddwn i byth wedi gweithio mewn gweithle lle roedd hi’n bosib siarad Cymraeg. Mae’r profiad hwnnw o fod yma a gallu siarad Cymraeg neu Saesneg fel rwy’n mynnu, mwy neu lai, wedi bod yn beth positif ac yn beth dymunol iawn ar lefel bersonol, a dyna y dylem ni fod yn trio ei gyflenwi a’i ddarparu i bawb mewn pob gweithle: ein bod ni ddim yn gorfod meddwl, ‘Ydy’r person yma yn siarad Cymraeg?’—ei bod hi’n beth sy’n dod yn lot fwy naturiol ac yn lot ehangach i bobl yn gyffredinol. Felly, rwy’n croesawu’r pwyslais ar hyrwyddo.
Fe wnes i sôn yn y ddadl ddiwethaf bod angen chwyldro arnom ni er mwyn cyrraedd y nod. Mae angen newid diwylliannol cynhenid i sicrhau bod pobl yn gallu teimlo hyder ac yn gallu llwyddo i siarad Cymraeg yn eu gweithleoedd ac mewn bywyd bob dydd. Mae rhan o hynny, fel roedd Suzy Davies yn sôn, yn ymwneud â hyder pobl, ond os nad ydych yn sicr bod y person rydych yn siarad â nhw yn mynd i ymateb yn y Gymraeg, mae’r cwestiwn yna o hyder yn eich dal chi nôl beth bynnag yw’ch gallu chi i fedru’r Gymraeg, ar un lefel. Felly, mae hynny’n rhan bwysig o hynny.
Yn fras, ar y cwestiwn yma o’r hawl gyffredinol, buaswn i yn hoffi i’r Llywodraeth edrych ar y drafodaeth gawsom ni yn y Pierhead rai misoedd yn ôl gyda Gwion Lewis, a oedd yn sôn am greu hawl cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd cymdeithasol, ond ynghyd â hynny bod canllawiau gyda ni i ddangos ble y byddai’n fwy tebygol ein bod ni’n cael defnyddio’r hawl. Roedd yn drafodaeth adeiladol iawn ac yn gynnig pellgyrhaeddol, a byddwn yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth i hynny maes o law.
Rwyf eisiau ategu rhai o’r pwyntiau cychwynnol roedd Jeremy yn eu gwneud ynglŷn â phwysigrwydd yr economi o ran ffyniant ieithyddol. Rwyf wedi bod yn gryf o’r farn na ellir gwahanu ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol o’i gilydd. Bydd Alun Davies yn cofio ni’n dau yn meddiannu tŷ yn fy etholaeth i nawr, a dweud y gwir, yng Ngharmel, adeg eisteddfod Casnewydd yn 1988, a’r faner tu fas i’r tŷ yn dweud, ‘Tai a gwaith i achub iaith’. Roedd yn wir bryd hynny, wrth gwrs, o ran y pwysau o ran tai fforddiadwy, ond mae gymaint yn fwy gwir nawr.
Rydym yn dueddol, efallai, o orbwysleisio yr elfennau addysgiadol a’r teuluol o ran trosglwyddiad iaith. Ond i mi, y gweithle, a dweud y gwir, oedd y pair a oedd yn golygu fy mod i wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg, oherwydd roeddwn i’n dod o deulu iaith gymysg gartref. Roedd fy nhad yn löwr, wrth gwrs, a Chymraeg oedd iaith y gwaith glo. Fe ddes i i sylweddoli hynny, a deall bwrlwm ac afiaith y diwylliant glofaol dosbarth gweithiol Cymraeg hwnnw. Wedi hynny, drwy streic y glowyr, wrth gwrs, fe wnaeth iaith, gwaith a gwleidyddiaeth ddod yn un asiad i mi. Wrth edrych ar draws Cymru, a dweud y gwir, mae’r sylfaen economaidd wedi bod mor bwysig. Meddyliwch am ardaloedd chwarelyddol y gogledd, er enghraifft. Edrychwch ar amaethyddiaeth, lle mae dal i fod, yn y sector yna, dros 50 y cant o ffermwyr Cymru yn siarad Cymraeg—dwywaith, wrth gwrs, y ganran sydd yn y boblogaeth—oherwydd bod y diwydiant ei hun yn cynnal pobl yn yr ystyr economaidd, a hefyd yn cynnal yn ieithyddol a diwylliannol. Nid yw hwn yn bwynt gwreiddiol rydw i’n ei wneud, wrth gwrs. Roedd Brinley Thomas, yn ei waith athrylithgar ar y chwyldro diwydiannol yng Nghymru a rôl y chwyldro diwydiannol yn achub yr iaith Gymraeg—. Roedd rhai pobl llawer mwy arwynebol yn awgrymu bod hynny wedi glastwreiddio’r iaith, ond roedd Brinley Thomas yn dangos ‘na’, oherwydd roedd y chwyldro diwydiannol ac, wrth gwrs, yr adfywiad wedi hynny yn y wasg Gymraeg yng Nghymoedd y de ac yn y blaen yn creu’r sylfaen oedd yn golygu nad oedd yr iaith Gymraeg wedi wynebu’r un tranc â’r iaith Wyddeleg.
Felly, a dod â’r gwersi hynny yn gyfoes, mae yna ryw iaith drwsgl a—i ddefnyddio hoff air Suzy Davies—jargonllyd, rydw i’n credu, yn Gymraeg a’r Saesneg, achos mae’n sôn am ‘gyfundrefnau cynhaliol cyfredol’. Wel, y bröydd Cymraeg traddodiadol rŷm ni’n sôn amdanynt fan hyn, ble mae’r iaith Gymraeg yn dal yn iaith feunyddiol ar y stryd, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, mae’r sylfaen economaidd a’r cwestiwn o ffyniant economaidd yn rhan annatod o’r cwestiwn o ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd hynny. Beth liciwn i weld yw bod yna, wrth inni edrych ar ranbartholi ar gyfer datblygu economaidd, fel yr oeddem ni’n trafod yn y pwyllgor economi’r bore yma—ein bod ni’n creu rhanbarth ar gyfer y gorllewin Cymraeg, os mynnwch chi, fel ein bod ni’n gallu dod â’r ddau beth yma—iaith a diwylliant ac economi—at ei gilydd mewn fforwm o gydweithrediad rhanbarthol.
Mae yna nifer o bethau y gall y rhanbarth honno—. Ond mae’n dda i weld bod y Prif Weinidog ddoe, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, wedi croesawu’r math yma o syniad. Mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud, fel edrych ar y cwestiwn yma o allfudo. Roedd yna brosiect yn ôl yn y 1990au o’r enw Llwybro, a oedd yn tracio pobl ifanc o’r canolbarth ac o’r gorllewin a oedd yn mynd bant i’r brifysgol, yn aml iawn yn Lloegr, ac yn ceisio denu—[Torri ar draws.] Wel, ie, ac rydw i’n credu mai’r Llywydd oedd yn gyfrifol am y prosiect yna: prosiect hynod lwyddiannus yn trio denu—. Roedd yn cadw cysylltiad, wrth gwrs, wrth iddyn nhw fynd bant, ac wedyn ceisio eu denu nhw nôl drwy adnabod cyfleoedd penodol a oedd yn addas ar gyfer eu sgiliau nhw. Unwaith eto, yn aml iawn yng Nghymru rŷm ni’n llwyddo gyda phrosiectau, ac wedyn rŷm ni’n taflu’r sail wybodaeth yna i ffwrdd. Ond mae yna gyfle inni ailafael ynddo fe.
Un prosiect, wrth gwrs, ar raddfa fawr yw’r rheilffyrdd: cysylltu gorllewin Cymru a gweld ein bod ni, am y tro cyntaf, yn gallu mynd o’r de i’r gogledd o fewn ein gwlad ein hunain. Felly, hynny yw, gweledigaeth ar raddfa fawr, gweledigaeth benodol a dysgu o’r gorffennol. Ond mae yna gyfle gyda ni i greu rhywbeth fydd yn gwrthbwyso’r duedd ar hyn o bryd—y gorbwyslais, efallai, ar y dinas-ranbarthau—trwy greu rhanbarth hefyd ar gyfer y gorllewin Cymraeg.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fel Aelodau’r Cynulliad mae angen i ni gefnogi mesurau effeithiol i hybu twf y Gymraeg, ac rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cymeradwyo’r amcanion hynny. Gwrandewais ar sylwadau agoriadol Sian Gwenllian, ac rwy’n cytuno â hi fod angen i ni roi pwyslais ar ddiogelu’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd: y syniad o roi camau ar waith i gadw swyddi yn yr ardaloedd hynny ac atal allfudo yn yr hyn a alwodd yn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith cyfathrebu bob dydd. Ac wrth gwrs, roedd Adam Price yn pwysleisio’r agwedd economaidd ac roedd hefyd yn siarad am ranbarth gorllewin Cymru a thrin y rhannau gorllewinol o Gymru sy’n siarad Cymraeg fel endid ar wahân o bosibl mewn rhai ffyrdd o feddwl yn economaidd. Rwy’n credu y gallai fod rhywfaint o werth yn hynny. Felly, rwy’n meddwl bod yna ffyrdd cadarnhaol y gallwn annog y Gymraeg, a chredaf fod yr hyn roedd Adam a Sian i’w gweld yn ei bwysleisio am y rhanbarthau gorllewinol yn ganolog i’r mater, rwy’n credu bod hynny’n wir, fy hun. Wrth gwrs, mae yna beryglon pan fyddwch yn ceisio trosglwyddo polisïau drwy Gymru gyfan ac rwy’n credu bod problemau posibl pan fyddwch yn crybwyll gorfodaeth.
Felly, os cyfeiriwn at yr enghraifft ddiweddar y buom yn ei thrafod ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â saga ysgol Llangennech, roedd digon o dystiolaeth fod y rhan fwyaf o’r gymuned yno yn erbyn y cynnig i droi ysgol gynradd ddwy ffrwd yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Nawr, gallech ddadlau, fel y gwnaeth Simon Thomas ar y pryd, fod y penderfyniad i wneud hynny’n cydymffurfio â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ei hun, ond gallech nodi hefyd nad oedd y cynllun, o ran y modd y câi ei gymhwyso yn Llangennech, i’w weld â llawer o fandad lleol y tu ôl iddo. Rydym yn sôn am leoliaeth yn y lle hwn, ac nid oedd yn ymddangos fel pe bai llawer o leoliaeth yn yr hyn a oedd yn digwydd yn Llangennech. Felly, rwy’n meddwl weithiau, pan fydd yna orfodaeth, fod mesurau’n gallu bod yn wrthgynhyrchiol mewn gwirionedd.
Soniodd rhywun yma ddoe pan oeddem yn siarad am drethu—credaf mai Huw Irranca-Davies a wnaeth—fod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn fel deddfwyr i beidio â chreu canlyniadau anfwriadol. Trwy geisio gwthio ysgolion cyfrwng Cymraeg drwy rym, rwy’n credu y gallech weithio weithiau yn erbyn targed o greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Cafodd yr agwedd hon ei chydnabod gan AS Llanelli, Nia Griffith, pan fynegodd ei hofn pe bai’r ysgol dan sylw yn troi’n ysgol cyfrwng Cymraeg, y gallai llawer o rieni fynd ati’n syml i fynd â’u plant i ysgol cyfrwng Saesneg, hyd yn oed os oedd hyn yn golygu symud cartref. Byddai hyn yn tueddu i drechu pwrpas cynyddu cyfranogiad yn y Gymraeg. Felly, efallai fod Nia Griffith, yn yr achos hwn, wedi nodi’r canlyniad anfwriadol posibl.
Felly, i grynhoi, rwy’n cytuno â’r syniadau economaidd am yr ardaloedd gorllewinol, ond rwy’n meddwl, fel egwyddor gyffredinol, fod angen i ni sicrhau bod y cyfle i siarad Cymraeg ar gael i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny, ond y gallai gorfodi Cymraeg ar bobl nad ydynt eisiau gwneud hynny fod yn wrthgynhyrchiol o bosibl.
Fel sydd wedi ei leisio’n barod gan ein siaradwyr eraill, mae Plaid Cymru yn gefnogol iawn o’r uchelgais i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’n bwysig cydnabod nad trwy gyfres o bolisïau tymor byr y mae newid sefyllfa’r Gymraeg. Yn wir, os yw’r nod uchelgeisiol yma am gael ei wireddu, yna mae’n rhaid i’r strategaeth hon fod yn un a all wrthsefyll newid gwleidyddol—hynny yw, newid mewn Gweinidog a hefyd newid mewn plaid wleidyddol sydd yn llywodraethu. Felly, mae’n rhaid sicrhau elfen o barhad a chysondeb dros gyfnod estynedig o amser.
Rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad i i’r ddadl yma heddiw i sôn yn benodol am un elfen sydd yn sicr angen parhad a chysondeb, elfen sydd yn greiddiol bwysig os yw’r Llywodraeth am ennill cefnogaeth gan y cyhoedd ar y daith i gyrraedd yr 1 filiwn, sef hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym ni wedi clywed ambell gyfraniad da iawn—Jeremy Miles ac Adam yn benodol, ond eraill hefyd, a Sian. Fel rhan o’r gyllideb ar gyfer 2017-18, a gytunwyd rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, yr oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth hyd braich i’r Gymraeg er mwyn rhoi cyfle i osod sylfaen newydd a mwy cadarn i bolisi Llywodraeth Cymru o adfywhau’r iaith a chreu Cymru sydd yn wirioneddol ddwyieithog. Mae angen cynyddu’r pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg ac nid dim ond ar sicrhau hawliau i’w siaradwyr. Fel y mae’n sefyll, rôl Comisiynydd y Gymraeg yw hyrwyddo, ond mae Plaid Cymru o’r farn mai rôl i gorff hyd braich arbenigol arall, gydag arbenigwyr, polisïau a chynllunio ieithyddol sydd wedi eu hadeiladu dros nifer o flynyddoedd, sydd fwyaf addas yn awr ar gyfer dyfeisio, hwyluso a monitro’r math o gynlluniau hyrwyddo sydd nawr eu hangen. Dyna pam fod angen asiantaeth—neu beth bynnag y bydd yn cael ei alw—sydd yn arwain ar bolisi, sydd yn gyfrifol am orolwg strategol yn y maes, ac yn meddu ar statws uchel ymysg adrannau Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor y celfyddydau.
Pam mai hyrwyddo yw un o’r elfennau pwysicaf er mwyn ehangu defnydd y Gymraeg? Wel, hyd yn oed heddiw, yn 2017, mae yna ddiffyg dealltwriaeth eang am ba fanteision y mae dysgu yn y Gymraeg yn eu cynnig a hyd yn oed sut y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu. Bob ryw chwe mis, yn ddi-ffael, cawn ni erthygl gan un o’r papurau newydd Prydeinllyd yn honni bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn atal plant rhag cyrraedd eu potensial, bod, rywsut, dysgu iaith sydd ar farw yn anfantais i unrhyw blentyn neu oedolyn sydd eisiau swydd o ansawdd, a’i bod yn well dysgu iaith dramor megis Ffrangeg neu Sbaeneg. Yr esiampl fwyaf diweddar, wrth gwrs, oedd erthygl yn ‘The Guardian’ bythefnos yn ôl a oedd yn ffeithiol anghywir ac yn honni bod plant a oedd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o dan ryw fath o anfantais o gymharu â’u cymheiriaid sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.
Er mwyn i’r Llywodraeth gyrraedd yr 1 filiwn, mae’n rhaid wrth newid agwedd tuag at y Gymraeg yn gyffredinol, fel ydym ni wedi clywed, ac i bobl Cymru gymryd perchnogaeth o’r amcan hon yn llawn hyder. Hyrwyddo—’Danfonwch eich plant i ysgol cyfrwng Cymraeg. Mi ddaw’r plentyn allan yn rhugl mewn dwy iaith, nid dim ond mewn un.’ Mae hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan annatod yn hynny i gyd. Mae’r hyrwyddo yn allweddol bwysig. Nid oes dim i’w ofni yn fan hyn, dim ond gwella sgiliau eich plant, a chredwn ni fod angen asiantaeth hyd braich i arwain ar yr hyrwyddo yna. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth y prynhawn yma, a diolch i Sian Gwenllian, ar ran Plaid Cymru, am gynnig y cyfle i drafod y Gymraeg yma heddiw. Llywydd, byddaf i’n gofyn i Aelodau y prynhawn yma gefnogi gwelliant 1 gan Jane Hutt, ond i beidio â derbyn y gwelliannau eraill. Rydw i’n gofyn i Aelodau bleidleisio felly oherwydd ddydd Mawrth nesaf byddwn ni’n gwneud datganiad ar y strategaeth i’r iaith a byddwn ni’n gwneud datganiadau pellach ar sut yr ydym ni’n bwriadu gweithredu’r strategaeth. Beth nad wyf i eisiau ei wneud y prynhawn yma yw clymu’r Llywodraeth i mewn i safbwyntiau lle’r ydym ni’n mynd i barhau i drafod a chynnal ymgynghoriadau pellach. Nid wyf i eisiau dechrau proses o drafod wrth ddweud lle’r ydym ni’n sefyll. Nid wyf i’n credu y byddai hynny’n beth doeth i’w wneud. Felly, ni fyddaf i’n derbyn y gwelliannau’r prynhawn yma—nid oherwydd fy mod i yn anghytuno â’r gwelliannau, ond oherwydd ein bod ni eisiau parhau i gynnig a chynnal trafodaeth gyfoethog amboutu sut rydym ni’n hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau dyfodol y Gymraeg.
Wrth ddweud hynny, rydw i eisiau dechrau gyda’r pwyntiau roedd Dai Lloyd wedi bennu yn eu gwneud amboutu newydd agweddau. Rwyf finnau a Dai Lloyd, mae’n ymddangos, yn darllen yr un papurau ac yn clywed, ambell waith, yr un adroddiadau. Rydw i’n hollol glir yn fy meddwl i, ac mae’n glir, rwy’n credu, ym meddwl pob un ohonom ni nad yw e’n dderbyniol i Gymry Cymraeg gael ein herio oherwydd ein bod ni’n digwydd siarad Cymraeg yng Nghymru. Ambell waith, pan wyf i’n clywed rhai adroddiadau—clywsom ni adroddiad yn y ‘Daily Post’ wythnos diwethaf amboutu rhyw dŷ bwyta yn y gogledd lle’r oedd pobl yn cwyno oherwydd eu bod nhw’n clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yng Ngwynedd. Wel, mae gen i neges hollol glir: rydym ni’n siarad Cymraeg yng Nghymru ac rydym ni’n mynd i barhau i siarad Cymraeg yng Nghymru, ac mae gyda ni hawl i wneud hynny. Nid ydym ni’n ymddiheuro wrth neb oherwydd ein bod ni’n dewis defnyddio ein hiaith ni yn ein gwlad ni. Ac rydym ni’n mynd i sicrhau nid jest statws y Gymraeg ond newid agweddau tuag at y Gymraeg. Nid ydym ni’n fodlon dod i unrhyw fath o gytundeb gyda neb ar hynny. Rydym ni’n mynd i ddefnyddio’r Gymraeg a pharhau i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
A gaf i ddweud hyn hefyd? Wrth symud ymlaen gyda’r fath o strategaeth a thrafodaeth yr ydym ni’n cael, rydym ni’n mynd, wythnos nesaf, i amlinellu ein gweledigaeth ni am y Gymraeg a sut rydym ni’n cyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae pawb yn cytuno, rydw i’n meddwl, fod y strategaeth yn un heriol ac uchelgeisiol. Ond rydw i hefyd yn meddwl ein bod ni’n dechrau ar daith—dechrau ar daith fel cenedl, fel gwleidyddion, fel Llywodraeth. Ac roeddwn i’n hollol glir yn fy meddwl i y llynedd, pan oeddwn innau â’r Prif Weinidog wedi gosod y targed yma, nad oeddem ni’n gosod targed er mwyn sicrhau dim newid. Roeddem ni’n gosod targed uchelgeisiol er mwyn creu’r angen i newid, er mwyn creu’r angen i newid sut mae’r Llywodraeth yn gweithredu a sut rydym ni fel cenedl yn gweithio ac yn gweithredu ar sawl un o’r meysydd polisi.
Wrth ddweud hynny, a gaf i ddweud gair ar addysg? Rydym ni wedi clywyd rywfaint o drafodaeth ar addysg y prynhawn yna. Nid ydw i’n mynd nôl i’r gorllewin; nid dyna yw fy mwriad i heddiw, er fy mod wedi cael gwahoddiad gan Adam Price i wneud hynny. Ond rydw i yn mynd i ateb y cwestiynau yr oedd Simon Thomas wedi’u gofyn i mi.
Mae Aled Roberts wedi bennu ei waith e ar WESPs ar draws y wlad, ac rydw i’n mynd i gyhoeddi ei adroddiad e, rwy’n gobeithio, cyn diwedd y tymor, ac yn bendant dros yr haf. Byddaf i’n ysgrifennu at gynghorau lleol yn ymateb i bob un o’r WESPs ar yr un pryd, a byddaf yn gofyn i gynghorau lleol sicrhau ein bod ni’n gallu ymateb i WESPs a chael cynlluniau strategol yn eu lle a fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd yr 1 filiwn, ac rydw i’n derbyn—. Nid ydw i’n derbyn pob un o’ch ffigyrau chi, ond rydw i yn derbyn y ffaith bod rhaid i ni gael fframwaith o’r fath, ac mi fyddwn ni’n gwneud hynny.
Mi fyddwn ni hefyd, wrth gwrs, yn gwneud datganiadau pellach ar hynny. Mi fydd Kirsty Williams yn gwneud datganiadau pellach ar y cwricwlwm ac addysg bellach, a hefyd rydw i’n awyddus iawn ein bod ni ddim yn siarad ac yn trafod y Gymraeg yn nhermau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nhermau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’n bwysig bod plant sy’n mynd i ysgolion Saesneg yng Nghymru yn cael yr un cyfle i ddysgu Cymraeg ac i ddod yn rhugl yn y Gymraeg erbyn iddyn nhw adael yr ysgol, ac mi fyddwn ni yn sicrhau hynny trwy’r math o ddiwygiadau i’r cwricwlwm rydym ni’n bwriadu eu gwneud.
A gaf i droi at rai o’r pwyntiau yr oedd Jeremy Miles wedi’u codi? Rydw i wedi dilyn y drafodaeth, ac rydw i wedi dilyn y drafodaeth sydd wedi bod amboutu ein hawliau ni i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydw i’n cytuno bod rhaid inni ystyried yn bellach sut rydym ni’n gweithredu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydw i’n meddwl bod gwaith Gwion Lewis yn cynnig ffordd o drafod hynny, ac rydw i’n edrych ymlaen at barhau trafodaeth o’r fath yn ystod y misoedd nesaf. Rydw i yn cytuno bod angen fframwaith deddfwriaethol sydd yn ein galluogi ni i gyrraedd ein gweledigaeth ni a gweld y cynllun i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr.
Ond hefyd mae’n rhaid inni ystyried a oes gyda ni’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol mewn lle ar hyn o bryd. Mae angen ystyried a yw’r balans rhwng rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi’r Gymraeg trwy weithgareddau hybu yn hwyluso ein haddysg ac yn gweithio ar hyn o bryd. Mae rhai, y prynhawn yma, wedi awgrymu bod angen newid, ac mae rhai, wrth gwrs, wedi newid eu hatebion eu hunain, ac rydw i’n gwerthfawrogi hynny, ac mi fyddwn ni’n ystyried eich awgrymiadau yn ystod y trafodaethau a fydd yn dod. Felly, rydw i’n gallu dweud y byddaf i’n cyhoeddi Papur Gwyn i ymgynghori ar hyn. Byddaf yn cyhoeddi’r Papur Gwyn yn ystod yr Eisteddfod yn sir Fôn, ac mi fyddwn ni’n trafod sut rydym ni yn creu’r fath o fframwaith deddfwriaethol a fydd yn angenrheidiol arnom ni ar gyfer y dyfodol.
Nid ydw i’n bwriadu trafod beth fydd cynnwys y Papur Gwyn y prynhawn yma, ond rydw i’n gallu dweud hyn: ni fyddwn ni’n ymyrryd â statws y Gymraeg. Rydw i’n gwybod bod rhai wedi cwestiynu a ydym ni’n edrych ar sut rydym ni’n gweithredu safonau. A yw hynny yn meddwl ein bod ni’n gwanhau statws y Gymraeg? Nid ydym ni’n gwneud hynny, ac nid ydym ni’n bwriadu gwneud hynny. ‘In fact’, rydym ni eisiau mynd i bellach i gryfhau statws y Gymraeg, ac fe fydd eisiau hefyd sicrhau bod yna ddigon o bwyslais ar hyrwyddo a hybu. Rydw i eisiau symud y pwyslais. Rydw i eisiau symud o bwyslais o ffurf fiwrocrataidd o reoleiddio i ffurf wahanol o hybu a hyrwyddo, a thrwy wneud hynny, rydw i eisiau gwneud rhywbeth pwysicach, efallai. Rydw i eisiau uno’r genedl ar bwnc y Gymraeg. Rydym ni’n gwybod, ac rydw i’n gwybod, fel un sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac un sy’n cynrychioli etholaeth lle nad wyt ti’n clywed y Gymraeg ar y stepen drws ac ar y ffyrdd ac yn cael ei siarad yn y gymuned, ambell waith, nad ydym ni fel Cymry wedi uno ar y Gymraeg.
Ond beth rydw i eisiau gwneud yw hyn—yn mynd nôl at y pwyntiau y mae Neil Hamilton wedi’u gwneud yn bellach y prynhawn yma ac ar adegau gwahanol—sicrhau nad ydym yn gorfodi ac yn sôn amboutu gorfodi, ond dathlu’r ffaith bod gyda ni ddwy iaith genedlaethol, fod gyda ni ddau ddiwylliant cenedlaethol, ein bod ni’n gallu mwynhau y ddwy iaith lle bynnag yr ydym ni yng Nghymru, a’n bod ni’n defnyddio’r Gymraeg i uno Cymru ar gyfer y dyfodol.
Galwaf ar Sian Gwenllian i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Mi ddechreuodd y ddadl y prynhawn yma efo Neil Hamilton yn cytuno efo llawer sydd yn y ddogfen, ‘Cyrraedd y Miliwn’. Felly, nid wyf cweit yn deall pam fod angen mynd ar ôl un agwedd ac un agwedd yn unig yn y gwelliant, sydd ddim wir yn cyfrannu at y weledigaeth a’r arweiniad sydd eu hangen yn y maes yma.
Mi oedd Suzy Davies yn pwysleisio’r angen i godi hyder, ac rydw i’n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Roeddech chi’n gofyn am esboniad am y cymal sydd—ac rydw i’n cytuno efo Adam—dipyn bach yn annelwig, sef ‘cyfundrefnau cynhaliol cyfredol’. Fel yr oedd Adam yn egluro, y cadarnleoedd, y bröydd Cymraeg, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd, a’r angen i gynnal y rhwydwaith yna o gymunedau drwy fesurau economaidd—dyna ydy craidd hynny.
Roedd Simon Thomas yn sôn am y ffaith bod yr iaith Gymraeg bellach yn ddibynnol iawn ar y byd addysg a bod yna fanteision i hynny, ac yn wir bod yna fanteision addysgol penodol i ddwyieithrwydd. Mi soniodd am yr her sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r angen i osod targedau penodol a cherrig milltir ar y daith i greu 1 miliwn o siaradwyr. Soniodd hefyd am bwysigrwydd meddwl am y gweithlu, ac er bod un o bob tri athro ac athrawes yn medru’r Gymraeg, nid ydyn nhw o angenrheidrwydd yn dysgu drwy’r Gymraeg.
Mi soniodd Jeremy Miles am y drafodaeth yn y pwyllgor iaith, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y pwyllgor hwnnw a’r argymhellion yn fanna. Mi aeth ymlaen i sôn ac i gytuno efo beth y mae Adam a minnau yn ei ddadlau: bod ffyniant y Gymraeg ynghlwm â ffyniant economaidd yr ardaloedd lle mae yna ganrannau uchel o bobl yn siarad Cymraeg, a’r angen felly i’r pwyslais yna fod yn y strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ond, gobeithio, bydd hi’n cynnwys hynny. Mi soniodd Jeremy hefyd am yr angen i’r cynlluniau addysg strategol fod yn llawer mwy uchelgeisiol, a’r angen i greu galw yn ogystal ag ymateb iddo fo.
Adam wedyn yn sôn ein bod ni yn methu, yn wirioneddol, gwahanu ffyniant economaidd oddi wrth ffyniant ieithyddol, a bod sylfaen economaidd y Gymraeg yn rhywbeth hanesyddol y gallwn ni ei olrhain a bod angen inni gynnal hynny rŵan. Ac wedyn, wrth inni edrych drwy’r trafodaethau sydd ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, cyfle sydd yma i ni wrth edrych ar ranbartholi, nid yn unig ein bod ni yn rhanbartholi ar draws y gogledd, ac yn rhanbartholi o gwmpas y dinasoedd rhanbarth, ond ein bod ni hefyd, fel rhyw fath o wrthbwynt i hynny i gyd, yn meddwl am greu rhanbarth ar gyfer y gorllewin a fyddai’n gweithio law yn llaw â’r rhanbarthau dinesig, sef rhyw fath o fforwm o gydweithio o gwmpas y materion allweddol y mae angen cydweithio arnyn nhw o safbwynt yr iaith Gymraeg. Ac mi soniodd Adam yn benodol am faterion allfudo a’n hatgoffa ni o’r cynllun Llwybro a’r angen i’r isadeiledd gysylltu’n llawer iawn gwell rhwng de a gogledd a rhwng gorllewin a dwyrain ein gwlad ni, yn ogystal ag allan o’n gwlad ni.
Rydw i’n meddwl hefyd y byddai creu fforwm, gan ddechrau efo’r pedwar cyngor—Môn, Gwynedd, Ceredigion, sir Gâr—lle mae’r cymunedau Cymraeg yn gryf, yn fodd hefyd o ledu peth o’r arfer da sydd yn digwydd yn rhai o’r cynghorau hynny yn barod o gwmpas yr iaith Gymraeg. Nid oes ond angen edrych ar sut mae polisi iaith Gwynedd a sut mae polisïau addysg Gwynedd wedi medru cynnal cymunedau efo cyfrannau uchel yn siarad Cymraeg a bod hynny er gwaethaf y dirywiad sydd wedi digwydd mewn llefydd eraill.
Mi soniodd Gareth Bennett ei fod o’n cytuno efo’r angen yma i gynnal y cadarnleoedd yn economaidd. Ie, dyna beth yr ydym yn ei ddweud. Ond rydym hefyd yn dweud, law yn llaw â chynnal y cadarnleoedd yn economaidd a chreu ffyniant ynddyn nhw, fod angen annog twf ar draws Cymru. Nid yw rhywun yn dweud ein bod ni’n mynd yn ôl i ryw oes a fu. Mi ydym ni angen ehangu ar draws Cymru hefyd ac heb y cadarnleoedd, byddai hi’n anodd gwneud hynny. Dyna yw ein dadl ni. Ond, mi oedd yn llonni fy nghalon i i weld miloedd o bobl yn Tafwyl dros y penwythnos, yn y brifddinas, yng Nghaerdydd, yn mwynhau bywiogrwydd y diwylliant Cymraeg cyfoes mewn cyd-destun newydd. Felly, mae’r cyd-destun yn newid, mae pobl yn symud o gwmpas, ac mae’n rhaid cydnabod hynny yn wir.
Tra’r oedd Tafwyl ymlaen yng Nghaerdydd—ac roedd un o’m meibion yn digwydd bod yna—mi oeddwn i yng Ngŵyl y Felinheli. Gŵyl arall; gŵyl hollol wahanol; gŵyl cyfrwng Cymraeg, eto, ond gŵyl bentrefol oedd honno, yn yr ardal lle mae’r Gymraeg yn iaith dydd i ddydd, yn y siop ac ar y stryd.
Ni allaf adael i’r foment hon basio heb sôn am Ŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog. [Chwerthin.]
Ardderchog. Wel, mae yna gymaint o wyliau—
Mae ar y penwythnos hwn.
Y penwythnos hwn. Reit, dyna ni. Wel, ewch i Langrannog, bawb. Wedyn, mi soniodd Dai am yr angen i hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob maes, a’r angen am gorff hyd braich i fod yn gwneud y gwaith hwnnw.
I gloi, felly, mae siarad Cymraeg a siarad Saesneg yn rhugl yn fy ngwneud i pwy ydw i. Mae’r Gymraeg yn agor y drws imi at ddiwylliant cyfoethog sy’n dyddio yn ôl i’r chweched ganrif. Mae’r Saesneg yn agor y drws imi i ddiwylliant cyfoethog byd-eang. Mae’r ddau yn rhan o’m mhrofiad i. Rwy’n lwcus. Rwy’n berson dwyieithog sy’n defnyddio’r ddwy iaith yn gwbl hyderus. Er nad ydych yn fy nghlywed yn siarad Saesneg yn fan hyn yn aml, rwyf yn medru siarad Saesneg, a hynny’n rhugl. [Chwerthin.] Felly, beth yw’r ddadl dros beidio â chreu’r cyfle i bobl plentyn i dyfu i fyny i feddu un, dwy, tair, pedair, pum iaith? Nid oes dadl resymegol. Mae yna fanteision amlwg. Y sefyllfa yna—y sefyllfa o ddwyieithrwydd neu amlieithrwydd—sydd yn gwbl normal yn y rhan fwyaf o wledydd y byd. Mae angen inni symud tuag at hynny cyn gynted ag y medrwn. Rwy’n eich llongyfarch chi fel Llywodraeth am fabwysiadu nod uchelgeisiol. Mae’n bryd cychwyn ar y daith honno rŵan a throi’r nod yn realiti. Felly, rwy’n falch o glywed y bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi o’r diwedd yr wythnos nesaf. Fe allaf roi gwarant i chi rŵan y byddwn yn craffu arni yn fanwl, ac yn sicr, bydd gennym ni sylwadau, mae’n debyg, am hynny. Rwy’n cytuno’n llwyr efo beth oedd Alun Davies yn ei ddweud: nid oes angen inni ymddiheuro i neb am ddefnyddio’r Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar bob achlysur ac ym mhob maes. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.