8. 8. Dadl Plaid Cymru: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 5 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:15, 5 Gorffennaf 2017

Diolch yn fawr iawn. Mi ddechreuodd y ddadl y prynhawn yma efo Neil Hamilton yn cytuno efo llawer sydd yn y ddogfen, ‘Cyrraedd y Miliwn’. Felly, nid wyf cweit yn deall pam fod angen mynd ar ôl un agwedd ac un agwedd yn unig yn y gwelliant, sydd ddim wir yn cyfrannu at y weledigaeth a’r arweiniad sydd eu hangen yn y maes yma.

Mi oedd Suzy Davies yn pwysleisio’r angen i godi hyder, ac rydw i’n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Roeddech chi’n gofyn am esboniad am y cymal sydd—ac rydw i’n cytuno efo Adam—dipyn bach yn annelwig, sef ‘cyfundrefnau cynhaliol cyfredol’. Fel yr oedd Adam yn egluro, y cadarnleoedd, y bröydd Cymraeg, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd, a’r angen i gynnal y rhwydwaith yna o gymunedau drwy fesurau economaidd—dyna ydy craidd hynny.

Roedd Simon Thomas yn sôn am y ffaith bod yr iaith Gymraeg bellach yn ddibynnol iawn ar y byd addysg a bod yna fanteision i hynny, ac yn wir bod yna fanteision addysgol penodol i ddwyieithrwydd. Mi soniodd am yr her sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r angen i osod targedau penodol a cherrig milltir ar y daith i greu 1 miliwn o siaradwyr. Soniodd hefyd am bwysigrwydd meddwl am y gweithlu, ac er bod un o bob tri athro ac athrawes yn medru’r Gymraeg, nid ydyn nhw o angenrheidrwydd yn dysgu drwy’r Gymraeg.

Mi soniodd Jeremy Miles am y drafodaeth yn y pwyllgor iaith, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y pwyllgor hwnnw a’r argymhellion yn fanna. Mi aeth ymlaen i sôn ac i gytuno efo beth y mae Adam a minnau yn ei ddadlau: bod ffyniant y Gymraeg ynghlwm â ffyniant economaidd yr ardaloedd lle mae yna ganrannau uchel o bobl yn siarad Cymraeg, a’r angen felly i’r pwyslais yna fod yn y strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ond, gobeithio, bydd hi’n cynnwys hynny. Mi soniodd Jeremy hefyd am yr angen i’r cynlluniau addysg strategol fod yn llawer mwy uchelgeisiol, a’r angen i greu galw yn ogystal ag ymateb iddo fo.

Adam wedyn yn sôn ein bod ni yn methu, yn wirioneddol, gwahanu ffyniant economaidd oddi wrth ffyniant ieithyddol, a bod sylfaen economaidd y Gymraeg yn rhywbeth hanesyddol y gallwn ni ei olrhain a bod angen inni gynnal hynny rŵan. Ac wedyn, wrth inni edrych drwy’r trafodaethau sydd ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, cyfle sydd yma i ni wrth edrych ar ranbartholi, nid yn unig ein bod ni yn rhanbartholi ar draws y gogledd, ac yn rhanbartholi o gwmpas y dinasoedd rhanbarth, ond ein bod ni hefyd, fel rhyw fath o wrthbwynt i hynny i gyd, yn meddwl am greu rhanbarth ar gyfer y gorllewin a fyddai’n gweithio law yn llaw â’r rhanbarthau dinesig, sef rhyw fath o fforwm o gydweithio o gwmpas y materion allweddol y mae angen cydweithio arnyn nhw o safbwynt yr iaith Gymraeg. Ac mi soniodd Adam yn benodol am faterion allfudo a’n hatgoffa ni o’r cynllun Llwybro a’r angen i’r isadeiledd gysylltu’n llawer iawn gwell rhwng de a gogledd a rhwng gorllewin a dwyrain ein gwlad ni, yn ogystal ag allan o’n gwlad ni.

Rydw i’n meddwl hefyd y byddai creu fforwm, gan ddechrau efo’r pedwar cyngor—Môn, Gwynedd, Ceredigion, sir Gâr—lle mae’r cymunedau Cymraeg yn gryf, yn fodd hefyd o ledu peth o’r arfer da sydd yn digwydd yn rhai o’r cynghorau hynny yn barod o gwmpas yr iaith Gymraeg. Nid oes ond angen edrych ar sut mae polisi iaith Gwynedd a sut mae polisïau addysg Gwynedd wedi medru cynnal cymunedau efo cyfrannau uchel yn siarad Cymraeg a bod hynny er gwaethaf y dirywiad sydd wedi digwydd mewn llefydd eraill.

Mi soniodd Gareth Bennett ei fod o’n cytuno efo’r angen yma i gynnal y cadarnleoedd yn economaidd. Ie, dyna beth yr ydym yn ei ddweud. Ond rydym hefyd yn dweud, law yn llaw â chynnal y cadarnleoedd yn economaidd a chreu ffyniant ynddyn nhw, fod angen annog twf ar draws Cymru. Nid yw rhywun yn dweud ein bod ni’n mynd yn ôl i ryw oes a fu. Mi ydym ni angen ehangu ar draws Cymru hefyd ac heb y cadarnleoedd, byddai hi’n anodd gwneud hynny. Dyna yw ein dadl ni. Ond, mi oedd yn llonni fy nghalon i i weld miloedd o bobl yn Tafwyl dros y penwythnos, yn y brifddinas, yng Nghaerdydd, yn mwynhau bywiogrwydd y diwylliant Cymraeg cyfoes mewn cyd-destun newydd. Felly, mae’r cyd-destun yn newid, mae pobl yn symud o gwmpas, ac mae’n rhaid cydnabod hynny yn wir.

Tra’r oedd Tafwyl ymlaen yng Nghaerdydd—ac roedd un o’m meibion yn digwydd bod yna—mi oeddwn i yng Ngŵyl y Felinheli. Gŵyl arall; gŵyl hollol wahanol; gŵyl cyfrwng Cymraeg, eto, ond gŵyl bentrefol oedd honno, yn yr ardal lle mae’r Gymraeg yn iaith dydd i ddydd, yn y siop ac ar y stryd.