<p>Y Diwydiant Ffermio</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 11 Gorffennaf 2017

Wel, mae’r arian yn mynd mas ar y rât y byddwn i’n ei erfyn ynglŷn â’r cynllun datblygu gwledig. Mae gyda ni, wrth gwrs, lan i 2023 i hala’r arian, ac nid oes rheswm i feddwl y byddai’r arian yna ddim yn cael ei hala. A gaf i ymuno â’r Aelod ynglŷn â llongyfarch Hufenfa De Arfon? Dyna’r lle cyntaf y gwnes i fynd iddo pan oeddwn i’n Weinidog—beth amser yn ôl nawr. Rwy’n cofio, wrth gwrs, yr hanes—nôl ym 1933, rwy’n credu, y cafodd yr hufenfa ei sefydlu. Felly, mae hynny’n dangos, wrth gwrs, pa mor llwyddiannus mae e wedi bod.

Ond, rwyf wedi dweud o’r blaen bod yn rhaid, wrth gwrs, sicrhau mwy o grwpiau neu gwmnïau cydweithredol yn y byd ffermio yng Nghymru. Nid yw’n farn sydd wedi cael ei chroesawu bob tro gan ffermwyr nac eraill yn y diwydiant. Ond mae’n hollbwysig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu cael pris teg am eu cynnyrch, ac un ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn iddyn nhw beidio gorfod, felly, werthu fel unigolion. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, y byddai hynny’n golygu mai gyda’r prynwyr y byddai’r cryfder.