<p>Diswyddiadau Staff ym Mhrifysgolion Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:36, 11 Gorffennaf 2017

Buaswn i’n hoffi llongyfarch fy mhrifysgol leol, Bangor, gan mai hi ydy’r unig brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr aur fframwaith rhagoriaeth dysgu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd yn ganlyniad ardderchog, yn cadarnhau bod Prifysgol Bangor yn cynnal safonau dysgu ac addysgu rhagorol yn gyson ar gyfer ei myfyrwyr, a bod y ddarpariaeth ym Mangor o’r safon uchaf a welir yn y Deyrnas Gyfunol heddiw.

Ond, ar yr un pryd, rwy’n nodi bod Prifysgol Bangor, ynghyd â bron bob prifysgol yng Nghymru, wrthi’n ymgynghori ynglŷn â diswyddiadau posib—117 o ddiswyddiadau posib gorfodol ym Mangor yn unig. Yn anffodus, mae cynifer o’n prifysgolion ni’n cael eu gorfodi i gymryd y camau yma ar hyn o bryd. A ydych chi’n cytuno ei bod hi’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ystyried y sefyllfa o ddifrif a darparu adnoddau ariannol ychwanegol ar gyfer ein prifysgolion fel mater o frys?