Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Bydd. Mae cytundeb dinas Abertawe wedi'i strwythuro ar sail 11 o gynigion prosiect mawr. Ceir proses a gyflwynwyd sy'n sbarduno’r arian sy’n mynd i Abertawe yn yr un modd â Chaerdydd. Nid yw’n union yr un fath, ond mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymrwymo i fuddsoddi ar y cyd, yn amodol ar gyflwyno a chymeradwyo achosion busnes llawn o ran yr 11 prosiect a nodwyd a chytundeb trefniadau llywodraethu ar gyfer y cytundeb, swm o hyd at £241 miliwn ar ymyraethau penodol.