2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0712(FM)
Wel, rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol i gefnogi twf busnes, i wella seilwaith, ac i greu amgylchedd economaidd mwy deniadol ar draws y rhanbarth.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn darparu £20 miliwn ychwanegol ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd. A fydd dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cael yr un cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru pan fydd ei angen?
Bydd. Mae cytundeb dinas Abertawe wedi'i strwythuro ar sail 11 o gynigion prosiect mawr. Ceir proses a gyflwynwyd sy'n sbarduno’r arian sy’n mynd i Abertawe yn yr un modd â Chaerdydd. Nid yw’n union yr un fath, ond mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymrwymo i fuddsoddi ar y cyd, yn amodol ar gyflwyno a chymeradwyo achosion busnes llawn o ran yr 11 prosiect a nodwyd a chytundeb trefniadau llywodraethu ar gyfer y cytundeb, swm o hyd at £241 miliwn ar ymyraethau penodol.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bu dros dri mis nawr ers i’r cytundeb gael ei lofnodi rhyngoch chi a Phrif Weinidog y DU, ond, hyd y deallaf, nid yw’r strwythur llywodraethu wedi ei ddatrys o hyd. Rwy'n credu bod angen i waith symud ymlaen nawr ar gyflawni’r prosiectau hynny sydd werth £1.3 biliwn i'r ardal leol a thu hwnt, gyda phwyslais cryf ar fasnacheiddio a datblygiad economaidd syniadau, yn ogystal â'r nodau cymdeithasol a llesiant, wrth gwrs. Rwy'n meddwl tybed: a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o hyn drwy adran yr economi a seilwaith yn hytrach na thrwy'r adran cyllid a llywodraeth leol?
Nac ydym, nid oes unrhyw gynlluniau i newid hynny. Y rheswm pam nad yw'r trefniadau llywodraethu wedi eu cytuno eto yw oherwydd bod yr etholiad cyffredinol wedi tarfu, a gwnaeth hynny, wrth gwrs, oedi’r amserlen. Ond rydym ni’n awyddus, wrth gwrs, i gyrraedd sefyllfa lle mae'r trefniadau llywodraethu wedi eu cytuno er mwyn gweld y cytundeb yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus.
Pa neges y byddai'n ei anfon i'r rhai sy'n cymryd rhan yng nghytundeb dinas-ranbarth bae Abertawe pe byddem ni’n colli prosiect buddsoddi adnewyddadwy enfawr yn y morlyn llanw oherwydd petruso ac oedi gan Lywodraeth San Steffan? Ac a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd o gwbl eu bod nhw’n mynd i wneud penderfyniad am hyn?
Pa argraff mae'n ei roi? Un wael. A ydym ni wedi cael unrhyw awgrym eu bod nhw’n agos at wneud penderfyniad? Naddo. Unwaith eto, nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw rwy’n meddwl, ei fod yn cefnogi morlyn llanw bae Abertawe. Wel, os yw e’n dweud ei fod yn ei gefnogi, mae’n rhaid iddo ei gyflawni. Fe yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ni all ddweud ei fod yn cefnogi rhywbeth, ac yna dweud, 'Wel, wrth gwrs, ni allaf helpu i’w gyflawni'. Mae wedi dweud hynny, ac mae'n hynod bwysig wedyn ei fod yn gallu gwneud yn siŵr bod ei lais yn cael ei glywed o gwmpas bwrdd Cabinet y DU. Os na fydd y morlyn llanw yn dod, pa asesiad ydym ni’n ei wneud o lais Ysgrifennydd Gwladol Cymru o amgylch y bwrdd hwnnw? Felly, ydym, rydym ni’n gwybod y bydd 1,000 o swyddi'n cael eu creu gan y morlyn llanw. Rydym ni’n gwybod bod angen i Lywodraeth y DU benderfynu nawr o ran y trefniadau ariannol sy’n ymwneud â’r morlyn. Rydym ni’n gwybod y bu adolygiad. Rydym ni’n gwybod nad oes unrhyw reswm nawr pam na ddylai ddigwydd. Os gellir rhoi gwerth £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, nid oes unrhyw reswm pam na all y morlyn fynd yn ei flaen.
Prif Weinidog, mae gan y ddinas-ranbarth y potensial nid yn unig i weddnewid rhanbarth bae Abertawe, ond hefyd i sicrhau manteision ehangach i Gymru gyfan. Gallai'r rhyngrwyd gwyddorau bywyd a llesiant helpu i ad-drefnu’r ffordd yr ydym ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Mae’r cebl trawsatlantig yn allweddol i lwyddiant gweledigaeth arfordir rhyngrwyd y ddinas-ranbarth. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, Prif Weinidog, am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran dod â chebl ffibr-optig o Efrog Newydd i fae Oxwich, sydd yn fy rhanbarth i?
Wel, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod am hynny, ond, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o ddatblygiad parhaus achosion busnes yn rhan o'r fargen ddinesig. Ond byddaf yn ysgrifennu ati gyda mwy o fanylion o ran y prosiect penodol hwnnw.
Rwy’n croesawu'n fawr y newyddion heddiw yr ydym ni wedi ei gael y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, yn cyfarfod â dirprwyaeth drawsbleidiol o Gadeiryddion pwyllgorau blaenllaw yma i hyrwyddo’r achos, unwaith eto, dros y morlyn llanw. Diolchaf iddo am y cwrteisi y mae wedi ei ymestyn i’r ddirprwyaeth drawsbleidiol honno. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod ein bod wedi cael dadl yma cyn yr etholiad cyffredinol lle cafwyd cefnogaeth gyffredinol i'r morlyn llanw ac i ganfyddiadau adolygiad Hendry yma yn y Siambr hon. Mae ganddo hefyd gefnogaeth y sector addysg uwch, y sector adeiladu, y sector busnes, y CBI, busnesau unigol, yr undebau, llywodraeth leol, trawsbleidiol, gan bawb yn wir. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle o fynd â’r ddirprwyaeth honno a phwysleisio'r ymrwymiad cryf. A yw ef yn cytuno â mi na allai fod unrhyw arwydd gwell o Lywodraeth y DU yn cymryd diddordeb uniongyrchol ymarferol yng Nghymru o ran ynni, ond hefyd o ran seilwaith cenedlaethol, na rhoi sêl ei bendith i’r morlyn llanw yn Abertawe?
Yn sicr. Mae'n pwyso’r holl fotymau cywir, os maddeuwch chi’r defnydd o’r ymadrodd hwnnw, o ran creu swyddi, o ran cynaliadwyedd, o ran yr amgylchedd, o ran y ffaith ei fod yn ffynhonnell lân o ynni, o ran dibynadwyedd a rhagweladwyedd. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Mae angen y penderfyniad hwnnw arnom ni’n fuan, fel y gall Llywodraeth y DU ddangos y gall y swm o arian y mae eisoes wedi ei ymrwymo i Ogledd Iwerddon gael ei gyfateb yn rhannol i’r arian y mae'n barod i’w ymrwymo i Gymru.