Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Prif Weinidog, mae gan y ddinas-ranbarth y potensial nid yn unig i weddnewid rhanbarth bae Abertawe, ond hefyd i sicrhau manteision ehangach i Gymru gyfan. Gallai'r rhyngrwyd gwyddorau bywyd a llesiant helpu i ad-drefnu’r ffordd yr ydym ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Mae’r cebl trawsatlantig yn allweddol i lwyddiant gweledigaeth arfordir rhyngrwyd y ddinas-ranbarth. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, Prif Weinidog, am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran dod â chebl ffibr-optig o Efrog Newydd i fae Oxwich, sydd yn fy rhanbarth i?