Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Yn sicr. Mae'n pwyso’r holl fotymau cywir, os maddeuwch chi’r defnydd o’r ymadrodd hwnnw, o ran creu swyddi, o ran cynaliadwyedd, o ran yr amgylchedd, o ran y ffaith ei fod yn ffynhonnell lân o ynni, o ran dibynadwyedd a rhagweladwyedd. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r prosiect hwn fynd yn ei flaen. Mae angen y penderfyniad hwnnw arnom ni’n fuan, fel y gall Llywodraeth y DU ddangos y gall y swm o arian y mae eisoes wedi ei ymrwymo i Ogledd Iwerddon gael ei gyfateb yn rhannol i’r arian y mae'n barod i’w ymrwymo i Gymru.