<p>Ieithoedd Modern mewn Ysgolion Uwchradd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 11 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:16, 11 Gorffennaf 2017

Mae wedi bod yn bleser croesawu disgyblion o dair ysgol gynradd o Ynys Môn i’r Cynulliad heddiw: Porthaethwy; Ysgol Corn Hir, Llangefni; a Pharc y Bont, Llanddaniel. Mi fues i’n trafod dysgu iaith ychwanegol efo disgyblion Parc y Bont a Chorn Hir, ac mae disgyblion Corn Hir eisoes yn y gynradd yn cael gwersi Ffrangeg yn wythnosol. Mi oedden nhw, fel disgyblion dwyieithog, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weld cyfleon i wthio eu ffiniau ieithyddol. Ond, wrth gwrs, mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ni fod cwymp mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn ysgolion uwchradd Cymru, ac mae’r adroddiad diweddaraf gan y British Council ar dueddiadau ieithoedd yng Nghymru yn dangos cwymp o bron iawn i hanner y disgyblion sy’n sefyll arholiad TGAU a lefel A rŵan mewn iaith dramor fodern o’u cymharu â 15 mlynedd yn ôl.

Mae cyfres o Weinidogion addysg Llafur wedi methu ag atal y llithro hwnnw, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno rŵan â galwad diweddar y grŵp trawsbleidiol Cymru Ryngwladol ar i’r siarad am yr uchelgais yma o greu Cymru ddwyieithog ‘plws 1’ droi’n weithredu ar hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod cwricwlwm newydd ar y ffordd?