Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Byddai hynny’n rhywbeth hollbwysig i’w ystyried yn y pen draw. Mae yna bwyslais heddiw, wrth gwrs, yn y Siambr hon, a hefyd y tu fas, ynglŷn ag ym mha ffordd rŷm ni’n cael y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond, wrth gwrs, fel mae’r Aelod wedi sôn, nid yw hynny’n meddwl ein bod ni’n mynd i anghofio am ieithoedd eraill. Ac, wrth gwrs, un o’r pethau y byddwn ni’n sicrhau ei wneud yw clymu’r strategaeth sydd gyda ni am yr iaith Gymraeg gyda’r strategaeth sydd yno’n barod, sef ‘Global Futures’, er mwyn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ddysgu mwy na dwy iaith yn y dyfodol.