Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Mae dau fater yr oeddwn yn awyddus i’w codi. Yn gyntaf oll, roeddwn wedi bod yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r sgandal gwaed halogedig, yn dilyn y llythyr gan holl arweinwyr y gwrthbleidiau yn San Steffan, ac, wrth gwrs, gefnogaeth gan bob plaid yma yn y Cynulliad hwn. Ond mae'n newyddion gwych bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi o'r diwedd, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, y cynhelir ymchwiliad cyhoeddus. Ac rwy’n credu ei fod yn deyrnged i'r holl gleifion a theuluoedd hynny sydd wedi ymgyrchu ers degawdau i gael yr ymchwiliad cyhoeddus hwn, oherwydd, yng Nghymru, bu farw 70 o bobl, ac mae bywydau llawer mwy o deuluoedd wedi cael eu difetha’n llwyr, ac maent yn haeddu atebion. Felly, mae croeso mawr i’r ymchwiliad cyhoeddus hwn.
Ond, wrth gwrs, mae llawer o gwestiynau yn awr am yr ymchwiliad cyhoeddus—am ei ffurf, pwy fydd yn ei arwain, sut y bydd pobl yng Nghymru yn cymryd rhan. Felly, a gaf i alw am ddatganiad, cyn gynted ag y bo modd, gan y Llywodraeth, am y ffordd y maent yn gweld y caiff yr ymchwiliad cyhoeddus hwn ei sefydlu, a sut y bydd Cymru yn cymryd rhan ynddo? Mae'n gwbl hanfodol bod dioddefwyr Cymru yn cael gwneud sylwadau yn y broses. Felly, rwy’n gofyn am ddatganiad, cyn gynted ag y bo modd, i edrych ar beth sy’n fuddugoliaeth i'r holl bobl hynny sydd wedi ymgyrchu cyhyd. Ond rydym am wneud yn siŵr nawr bod yr ymchwiliad cyhoeddus hwn yn ateb yr holl gwestiynau hyn.
Yn awr, yr ail bwynt yr oeddwn am ei godi, sy'n gysylltiedig â hyn, gan ei fod yn ymwneud â hepatitis C, wrth gwrs, a oedd hefyd, mewn rhai achosion, wedi ei gael trwy waed halogedig—cawsom ddadl lwyddiannus iawn yma ar hepatitis C ar 14 Mehefin, a chytunodd pawb mai’r her fawr yw cael mwy o bobl i gael prawf, i ddod ymlaen. Ac mae digwyddiad heno i lansio ymgyrch 'Rwy'n werth...', i dynnu sylw at y mater hwn. Ond sut y byddem yn gallu cael diweddariadau rheolaidd gan y Llywodraeth ynghylch a yw’r ymgyrchoedd y mae’r Llywodraeth, a'r GIG ac eraill yn eu gwneud i gael mwy o bobl i ddod ymlaen—sut ydym ni’n gallu cadw golwg ar sut mae hynny’n gweithio mewn gwirionedd? Hoffwn i ofyn i arweinydd y tŷ a oes rhai ffyrdd o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ar sut y mae hyn wedi bod mor llwyddiannus—wyddoch chi, Llywodraeth Cymru yn talu am y cyffuriau hyn, cyfradd llwyddiant 95 y cant o ran gwella pobl, datblygiadau hollol aruthrol, ac mae pawb yr ydym yn gwybod amdanynt yn cael eu trin, er bod o leiaf 50 y cant o’r bobl sydd â hep C ddim yn gwybod hynny.