Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi, Julie Morgan, am y cwestiynau hynny. A Julie Morgan a arweiniodd y ddadl ar y mater hwn—o ran eich cwestiwn cyntaf—yma yn y Senedd. Ac roedd cefnogaeth unfrydol gan Aelodau Cynulliad ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd o ran pwyso am ymchwiliad cyhoeddus llawn. Ac rydym, wrth gwrs, yn awr yn croesawu cadarnhad y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r sgandal gwaed halogedig.
Ac rwy’n meddwl ei fod yn bwysig, fel y dywedodd Julie Morgan, y bydd ymgynghori â theuluoedd, yn enwedig y rhai a gollodd eu hanwyliaid yn sgil y gwaed halogedig, ynghylch y ffurf y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. Deallaf ei fod wedi cael ei fynegi—mae’r dymuniad hwnnw i ymgynghori â theuluoedd eisoes wedi ei fynegi. Mae'n briodol ein bod nawr—. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a ychwanegodd ei gefnogaeth i'r alwad am ymchwiliad y DU, yn gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddweud ein bod yn falch, fel Llywodraeth Cymru, bod Llywodraeth y DU o’r diwedd yn mynd i gydnabod cryfder teimladau'r rhai yr effeithir arnynt, a'u teuluoedd, ond y byddant hefyd yn egluro'r hyn a ddigwyddodd iddynt, ac yn parchu’n llawn ac yn ymgysylltu â hwy, o ran y ffurf y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. A hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r rhan y mae Julie Morgan wedi’i chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn.
Hefyd, o ran eich ail gwestiwn, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau nid dim ond â’r gwaith trawsbleidiol, yr ydych yn ei arwain, Julie, ond hefyd, fel Llywodraeth, ein bod yn ymateb o ran bwrw ymlaen ag ymwybyddiaeth o hepatitis C, gan alluogi pobl i ddod ymlaen. Mae lansiad yr ymgyrch yn bwysig iawn. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ymgysylltiad Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran y cyfle hwnnw.