Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Mae’r panel adolygu annibynnol yn cael ei gadeirio gan Dr Ruth Hussey, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, ac mae'n cynnwys arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. I ddechrau, hoffwn ddiolch i Ruth a'i chyd-aelodau o’r panel, ac, yn wir, i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r panel, am eu hymrwymiad i'r gwaith pwysig hwn. Rwyf hefyd yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer yr adolygiad, a’r modd y mae llefarwyr y gwrthbleidiau, a chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, wedi ymwneud ag ef. Mae hyn wrth gwrs yn dod o gytundeb cychwynnol rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn.
Mae’r cylch gorchwyl a gytunwyd ar gyfer yr adolygiad yn heriol. Rhoddwyd i’r panel y dasg o asesu a gwneud argymhellion ar: sut y gallai’r system iechyd a gofal ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl ledled Cymru; lleihau anghydraddoldebau sy'n bodoli rhwng grwpiau penodol o’r boblogaeth; a’r ffordd orau o alluogi system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan i fod yn gynaliadwy dros y pump i 10 mlynedd nesaf.
Mae’n hanfodol creu newid yn y system er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Yn ôl y Sefydliad Iechyd, os na cheir gweithredu effeithiol i leihau pwysau costau, cynyddu effeithlonrwydd, neu leihau'r galw am wasanaethau, bydd angen i wariant y GIG yng Nghymru godi ar gyfartaledd o 3.2 y cant y flwyddyn hyd at 2030-31 mewn termau real, dim ond i allu cynnal y gwasanaeth. Rhagwelir y bydd pwysau costau ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn codi hyd yn oed yn gyflymach na’r rhai ar gyfer y GIG, ar raddfa o 4.1 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd.
Rwy'n falch bod y panel wedi ymateb ar y cam cynnar hwn gydag adroddiad interim craff. Dros y sawl mis nesaf, bydd y panel adolygu yn cynnal trafodaethau ar draws Cymru, gan ymgysylltu â grwpiau allweddol, a gweithio gyda rhanddeiliaid ar fodelau gofal integredig. Byddant hefyd yn edrych yn fanylach ar rai materion allweddol ac yn gwneud argymhellion clir ar faterion allweddol ar gyfer yr adroddiad terfynol.
Mae'r panel yn cydnabod yn briodol ymrwymiad aruthrol y gweithlu iechyd a gofal a'i gyflawniadau arwyddocaol. Fodd bynnag, ni allai'r achos dros newid y modd y dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu trefnu yn y dyfodol fod yn fwy clir. Fel y mae'r adroddiad yn dangos, mae'r newid yng nghyfansoddiad y boblogaeth yn cyflwyno her arbennig. Cymru sydd â'r gyfran fwyaf ac sy’n tyfu gyflymaf o bobl hŷn yn y DU. Er bod hynny, wrth gwrs, yn achlysur i’w ddathlu, bydd poblogaeth gynyddol hŷn gydag amodau ac anghenion iechyd mwy cymhleth hefyd yn arwain at fwy o alw am ofal. Ar yr un pryd, bydd y gyfran o bobl o oedran gweithio yn crebachu, gan ddarparu cronfa lai o drethdalwyr, gofalwyr answyddogol a darpar weithwyr ym maes iechyd a gofal.
Er gwaethaf ein llwyddiannau diweddar wrth recriwtio, mae Cymru—fel llawer o wledydd eraill —yn dioddef o brinder mewn meysydd proffesiynol penodol. Yn ogystal â llawer o gymdeithasau ôl-ddiwydiannol, mae Cymru eisoes yn wynebu anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd a llesiant. Mae'r panel wedi rhannu'r farn a fynegwyd gan weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd fel ei gilydd, nad yw gofal iechyd bob amser yn cael ei ddarparu yn effeithiol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Fodd bynnag, gellid achub ar gyfleoedd cadarnhaol drwy sicrhau bod technolegau yn cael eu mabwysiadu’n gyflymach a thrwy sicrhau ymagwedd fwy systematig tuag at arloesi, a allai helpu i ddarparu gofal mwy effeithiol.
Bydd llawer o bobl, wrth gwrs, yn cydnabod y darlun hwn. Yr hyn sydd wedi’i amlygu’n glir yn yr adroddiad interim hwn yw pa mor gyflym y mae ffactorau cymdeithasol a thechnolegol sy’n newid yn gyflym yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir. Mae'r adroddiad yn glir na fydd gwasanaethau iechyd a gofal yn gynaliadwy os bydd trefniadau gwasanaeth a ffyrdd o weithio traddodiadol yn parhau. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen modelau newydd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol.
Ond canfu’r panel gonsensws sylweddol ymysg rhanddeiliaid iechyd a gofal o ran y nodweddion a ddylai berthyn i system iechyd a gofal integredig yn y dyfodol. Y nodweddion hyn yw: gwasanaeth iechyd sylfaenol cyffredinol, sy'n hyrwyddo llesiant y boblogaeth; mwy o bwyslais ar ofal ataliol; unigolion i gael cefnogaeth i reoli eu cyflyrau eu hunain lle bo hynny'n bosibl ac yn ddiogel; sicrhau bod mwy o gymorth ar-lein ar gael; lle bynnag y bo'n bosibl, darparu gwasanaethau yn y cartref yn gyntaf neu yn y gymuned, gan ddefnyddio gwasanaeth gofal mewn ysbyty dim ond ar gyfer gwasanaethau y gellid eu darparu gan gyfleuster ysbyty yn unig; model o ofal a chefnogaeth yn y cartref mwy hyblyg sy'n galluogi'r unigolyn i gael rheolaeth dros bryd, ac am ba hyd, y mae’n defnyddio gwasanaeth; cydgysylltiad cyson rhwng gwahanol fathau o ofal; sicrhau bod diwylliant gofal yn canolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r dinesydd eu heisiau ac yn gallu eu cyflawni; a phwyslais di-baid ar ansawdd ac effeithlonrwydd, gan sicrhau bod gan aelodau staff amgylchedd gwaith cefnogol ac ymroddgar.
Gellir gwella pob un o'r materion uchod hynny drwy dechnoleg newydd a’u llywio gan ddata a dadansoddiadau wedi’u rhannu. Fodd bynnag, er bod yna, wrth gwrs, gonsensws eang ar y weledigaeth, mae'r panel yn adrodd bod sefydliadau iechyd a gofal yn chwilio am gyngor a chymorth ymarferol ar sut y mae hyn i’w gyflwyno’n gyson ar draws ein system. I ymdrin â hyn, mae'r panel yn awgrymu mai’r camau nesaf i Gymru yw nodi’r modelau system gyfan bras a mwyaf addawol o iechyd a gofal cymdeithasol gan dynnu ar dystiolaeth ryngwladol, ac yna y dylid defnyddio modelau newydd ar raddfa i gyflwyno newid gweddnewidiol i’r system gyfan.
Dylai'r modelau gofal newydd hyn gynnwys cyfuniad o ofal mewn ysbyty, darparwyr gofal sylfaenol a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Dylen nhw weithio mewn gwahanol leoliadau, megis lleoliadau trefol a gwledig, ac wrth gwrs dylen nhw ystyried anghenion iaith Gymraeg. Mae'r panel yn rhagweld y gallai nifer cyfyngedig o fodelau gael eu treialu, eu datblygu a'u gwerthuso’n eang. Bydd y panel yn sefydlu fforwm rhanddeiliaid i weithio gyda nhw i ddatblygu’r modelau newydd hyn a'r egwyddorion y dylid eu defnyddio i gynllunio datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol.
Bydd gwneud y gwaith hwn yn awr yn creu momentwm ac amgylchedd ar gyfer cynnydd ar ôl i'r adolygiad ddod i ben. Ochr yn ochr â hyn, barn y panel yw na fydd y modelau newydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy heb weithredu yn gyfochrog ar nifer o ddulliau galluogi. Caiff y rhain eu hamlinellu yn yr adroddiad yn feysydd lle bydd y panel yn ceisio datblygu argymhellion. Hynny yw: deialog gyhoeddus; y gweithlu; dulliau digidol a seilwaith; arloesedd; ac, yn hanfodol, ei gwneud yn bosibl i newid ddigwydd yn gyflymach.
Mae hwn yn adroddiad interim cadarn ac rwy'n croesawu'r dull gweithredu ymarferol y mae'r panel adolygu yn bwriadu ei fabwysiadu tuag at ei waith. Rwy’n galw ar sefydliadau iechyd a gofal ac aelodau o'r cyhoedd i ymateb â’r un egni, gan weithio'n adeiladol gyda’r adolygiad seneddol dros y misoedd nesaf.