Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Rwyf wrth fy modd i allu siarad am y datganiad hwn ac fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i Dr Ruth Hussey ac aelodau'r panel am eu gwaith ar hyn. Rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y ffordd agored a thryloyw y mae'r cadeirydd a'r panel wedi ymgysylltu â mi ac, rwy’n gwybod, ag Aelodau’r Cynulliad eraill a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Credaf fod hwn yn foment arloesol i Lywodraeth Cymru—ar gyfer pob gwleidydd, mewn gwirionedd—i’r GIG a’r sector gofal, a chredaf fod yr adroddiad y maen nhw wedi ei gynhyrchu—yr adroddiad interim—yn glir iawn iawn, ac yn gosod nid yn unig maint yr her sy'n ein hwynebu, ond rhai o'r llwybrau posibl y gallem ni eu dilyn i ddatrys rhai o'r heriau hynny. Rwy'n credu nad oes llawer yn yr adroddiad hwn nad oedd neb ohonom yn gwybod amdano, ond weithiau mae’n rhaid i chi ofyn i rywun o’r tu allan i ddweud wrthych chi yr hyn sy'n amlwg, oherwydd eich bod yn ei wybod, ond mae'n rhaid i chi ei glywed eto. Rwy'n credu iddyn nhw nodi unwaith eto yn ofalus iawn lawer o'r problemau, llawer o'r materion, llawer o’r heriau yr ydym ni i gyd yn eu hadnabod mor dda. Ond maen nhw wedi ei wneud mewn ffordd ddigynnwrf a phwyllog iawn ac maen nhw wedi ei osod yn glir iawn. Felly, dyma’r seinfwrdd yr oedd ei angen arnom ni a dyma ni wedi cael hynny.
Credaf fod yr adroddiad yn glir iawn, unwaith eto, ar nifer o bethau. Un peth yw bod yn rhaid i gyflymder y newid gynyddu—nid yw gwneud dim yn opsiwn y gallwn fforddio ei gymryd, ac ni ddylem ni ei gymryd. Roedd yn drawiadol iawn i mi pa mor eglur yr esboniwyd bod yna eisoes lawer o weithgarwch o fewn cyfundrefn y GIG eisoes yn dwyn ffrwyth—mae yna fodelau gwych o arloesedd i’w cael yna, ond rywsut mae yna rwystr sy’n atal y modelau arloesol hynny rhag ymwreiddio a ffynnu a chael eu trawsblannu i feysydd eraill er mwyn gallu ennill hygrededd ar draws y GIG cyfan. Felly, i mi, mae'r adroddiad hwn wedi nodi'n glir iawn ein bod ni i gyd yn gwybod y cyfeiriad teithio, ond nid yw'r map ffordd yn glir i lawer iawn o sefydliadau y mae angen i ni weithio gyda nhw. Felly, fel bob amser, y cwestiwn yw: beth yw'r rhwystrau hynny i’r broses o wella? Rwy'n edrych ymlaen at ail gam yr adroddiad. Cyfarfûm â Ruth Hussey y bore yma ac roedd hi’n glir iawn eu bod nhw’n dymuno canolbwyntio ar rywfaint o'r manylion hynny yn ail gam yr adroddiad.
Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy’n credu bod yna rai gwersi clir y gallwn ni ddechrau dysgu ohonyn nhw yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ychydig o'r cwestiynau hynny, gan fod yna gymaint y gallech chi siarad amdano yn yr adroddiad hwn—mae'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i ddirnad y darnau gorau i siarad amdanyn nhw yn yr amser a roddir. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ei chael hi’n anodd gwthio rhai polisïau da yn eu blaenau. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw hyn: sut y byddwch chi’n rhoi rhagor o sgiliau i’ch adran a'ch swyddogion, fel bod ganddynt fwy o allu i arwain ac argyhoeddi ar gyfer newid? Fy ail gwestiwn yw, o ystyried y cyntaf: sut y byddwch chi’n mynd ati i reoli'r tensiynau a grëwyd gan y penderfyniadau hyn ar gyfer Cymru y mae’r adroddiad yn sôn amdanynt, ac rwy’n gallu deall yr angen hwnnw yn llwyr? A pha fath o benderfyniadau yr ydych chi’n rhagweld y gallen nhw fod—mawr, mân—a pha fath o raddfa? Ac o ystyried y tensiynau hynny o'r cwestiwn cyntaf a'r ail: sut y byddwch chi’n ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu denu i’ch ochr chi? Gan fy mod yn sylwi mai’r un peth nad ydych yn sôn amdano yn eich datganiad yw ymgysylltu â'r cyhoedd ar unrhyw lefel sylweddol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r adroddiad hwn yn ei bwysleisio’n gryf iawn, iawn, iawn, ac rwy'n poeni nad ydych chi’n sôn amdano yn eich datganiad. Hoffwn i gael sicrwydd gennych chi y byddwch yn ymgysylltu â'r cyhoedd, ac y bydd llais y claf, llais y defnyddiwr, a llais y rhai nad ydynt eto wedi defnyddio'r GIG yn cael ei glywed yn hyn i gyd.
Mae'r adroddiad yn nodi meysydd sydd eisoes angen gwaith ac nid wyf yn credu bod angen i ni aros am ail adroddiad i ddod i’r casgliad bod angen i ni edrych ar sut yr ydym yn dod â chyd-gynhyrchu i iechyd a gofal cymdeithasol; sut yr ydym yn trawsnewid a throsglwyddo gwybodaeth. Tybed a wnewch chi amlinellu pa gamau yr ydych yn credu y gallech chi eu cymryd yn barod; sut y gallech chi gefnogi'r sector gofal hynod fregus; sut y gallech chi gefnogi—ac rwy’n dwlu ar yr ymadrodd hwn—y llu gofalu: y bobl sy'n rhoi gofal gwirfoddol i bob un o'r teuluoedd hynny yn y cartref ac i'r rhai hynny y maen nhw’n eu caru, a beth y gallwn ni ei wneud yn awr i'w cefnogi? Byddai gennyf ddiddordeb mawr i wybod beth y gallem ei wneud nawr i edrych ar anghenion hyfforddi a thâl ac amodau gwaith ein llu gofalu, y sector gofal cyflogedig, gan fy mod yn credu eu bod yn cael eu gadael ar ôl yn y ras i geisio gwella ein GIG ar hyn o bryd.
Roeddwn i’n falch iawn o weld bod yr adroddiad hwn yn sôn yn helaeth am dai a sut y byddwn ni’n derbyn iechyd a gofal cymdeithasol yn ein cartrefi yn y dyfodol. Hoffwn i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi gynlluniau i siarad â'ch cydweithwyr am sut y gallwn ni ddechrau mynd i'r afael â rhai o’u hanghenion o ran tai. Er enghraifft, rwy’n gwybod yn fy etholaeth fy hun bod yr holl dai sy'n cael eu hadeiladu, pa un a ydyn nhw yn cael eu hadeiladu yn breifat, gan y cyngor sir neu gan gymdeithasau tai, mai canran fach iawn sy’n cael ei hadeiladu i fod yn gartref i bobl ag anableddau, neu i fod yn gartref i bobl â dementia, yr henoed, i osod lifftiau grisiau—beth bynnag y byddai angen ei wneud—ac eto mae'n ymddangos i mi, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, bod yn rhaid i ni sicrhau bod mwy o'n stoc tai cyhoeddus a phreifat yn gallu gofalu amdanom ni. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn glir iawn ynghylch faint o bobl yn mynd i fod ag angen mwy a mwy o gefnogaeth yn eu cartrefi.
Rwyf wedi sylwi ar eich sylw neu eich amnaid hynaws iawn, iawn yn y fan yna, Dirprwy Lywydd; fe af i’n gyflym iawn drwy'r darn bach diwethaf, ac, mewn gwirionedd, dim ond i ofyn un peth arall. Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i'r Prif Weinidog heddiw ai hwn fyddai cyfeiriad y daith ai peidio. Nawr, rwy’n credu bod hwn yn gonglfaen gwych ar gyfer dechrau adeiladu dyfodol ar gyfer ein GIG. Rwy'n credu bod gweithlu'r GIG, rwy'n credu bod y gwleidyddion ac rwy'n credu bod y cleifion i gyd wedi blino ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd, a bod angen i ni gael dyfodol cliriach, mwy disglair. A byddwn wir yn hoffi deall pa ymrwymiad sydd gennych i fwrw ymlaen â’r adroddiad hwn. Rwy'n siwr y byddwn ni’n dadlau dros y blynyddoedd, ynghylch y modd o ddarparu rhannau ohono, ac ynghylch pa un a ddylai un peth neu beth arall fod yn flaenoriaeth. Ond rwy’n credu bod yr amlinelliad sydd wedi ei lunio yma yn gryf iawn, iawn, a hoffwn i wybod a chael sicrwydd gennych chi—gan nad wyf yn credu i ni gael yr ateb cywir gan y Prif Weinidog—bod hyn mewn gwirionedd yn mynd i gael ei fabwysiadu a’i ddefnyddio ac nad yw’n mynd i gael ei adael ar silff i hel llwch, fel y digwyddodd i gymaint o adroddiadau eraill yn y gorffennol.