Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma, ac fe wnaf innau hefyd ddefnyddio’r cyfle yma i ddiolch i Ruth Hussey a’i thîm am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud hyd yma. Rydw i’n falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa rŵan lle rydym ni yn gallu cael y datganiad yma, ac rydw i’n falch o weld y sylw yn y wasg ac ati heddiw i’r adroddiad yma, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet, rydw i’n meddwl, yn iawn i’n hatgoffa ni mai cynnar ydym ni mewn difri yn y gwaith mae’r panel yn ei wneud, ac mai adroddiad interim ydy hwn.
Rydw i’n croesawu nifer o’r canfyddiadau sydd wedi cael eu dwyn i’n sylw ni—mae llawer ohonyn nhw, fel dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yn eithaf amlwg, ond beth sydd yn bwysig rŵan ydy beth sy’n cael ei wneud o’r canfyddiadau yma wrth i waith y panel barhau, pa fath o argymhellion fydd yn cael eu gwneud ar sail y canfyddiadau, a pha fath o fodelau fydd yn cael eu datblygu. Rydw i’n edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd dros y misoedd nesaf, ond dyna fo.
Er mai adroddiad interim ydy hwn, rydw i’n meddwl bod rhai o’r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn rŵan yn ymwneud â’r camau a all gael eu cymryd rŵan gan y Llywodraeth mewn difri, o ystyried yr hyn glywsom ni gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, yn dweud bod yr achos dros newid yn sut mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu trefnu yn y dyfodol yn gwbl glir erbyn hyn. Wel, os ydy o’n glir, siawns bod yna rai camau y gall y Llywodraeth fod yn eu cymryd rŵan, heb ddisgwyl am yr adroddiad ei hun yn y pen draw.
Mae’r adroddiad, unwaith eto, yn pwysleisio gwerth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol—mi fyddwn i’n ychwanegu at hynny fod integreiddio adrannau tai llywodraeth leol i mewn i hynny yn bwysig hefyd. Ac rydym ni’n gwybod bod yna sylweddoliad o werth integreiddio, ond bod hynny ddim yn digwydd. Felly, er bydd yr adroddiad terfynol yn rhoi rhagor o gig ar yr asgwrn, tybed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno nad oes rhaid inni efallai aros i’r Llywodraeth ddechrau edrych ar sut y gall y canllawiau, y ‘protocols’, y camau gweithredu i sefydliadau, er mwyn eu galluogi nhw i weithio efo’i gilydd, gael eu tynhau rhywfaint a bod y gwaith yna yn digwydd rŵan.
Ynghlwm â hyn y mae’r broblem o sefydliadau unigol yn cymryd penderfyniadau ynglŷn â’u cyllidebau, sy’n rhai synhwyrol iddyn nhw eu hunain, ond sydd weithiau yn arwain at roi pwysau ychwanegol ar gyllidebau gwasanaethau eraill. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddechrau newid diwylliant o fewn y gwasanaethau cyhoeddus fel bod hyn yn stopio, oherwydd mae hynny’n mynd i fod yn gam pwysig tuag at wireddu’r syniad o integreiddio?
Mae’r adroddiad interim hefyd yn cefnogi llawer mwy o fuddsoddiad mewn gofal sylfaenol—‘primary care’. Rydym ni’n cytuno’n llwyr â hynny. Felly, pa newidiadau i’w adran o all yr Ysgrifennydd Cabinet eu gwneud rŵan er mwyn sicrhau ein bod ni’n dechrau meddwl mwy yn nhermau rhoi gofal sylfaenol yn gyntaf?
Ac yn olaf, mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod gwerth technoleg. Weithiau, nid ydy technoleg, ac yn arbennig y cyflymder newid rydym ni’n ei weld mewn technoleg a’r posibiliadau newydd mewn technoleg, yn cael eu deall yn ddigon da gan reolwyr a chomisiynwyr iechyd, ac o bosib bod hynny wedi golygu nad ydy’r sylw priodol wedi cael ei roi i’r maes yma yn y gorffennol. O ystyried hynny, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl y dylem ni ddechrau meddwl am bobl broffesiynol ym maes IT a phobl broffesiynol ym maes technolegau eraill—y dylem ni ddechrau eu gweld nhw fel gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n chwarae rôl gwbl allweddol mewn delifro gwasanaethau, gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau yn gweithio a sicrhau bod technoleg yn cael ei chynnwys i’r eithaf mewn llwybrau gofal i gleifion yng Nghymru?
Mi adawaf i’r cwestiynau yn y fan yna. Adroddiad interim, ie. Cam pwysig, ond rydw i’n meddwl bod yna gamau y gall y Llywodraeth fod yn eu cymryd mor gynnar â hyn yn y broses.