Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at y modelau gofal—y modelau newydd o ofal integredig—y bydd y tîm adolygu yn eu cyflwyno i ni yn eu hadroddiad terfynol, ac rwy'n siwr y byddant yn heriol i ni mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Dyna ran o'r pwynt o sefydlu'r broses. Mae i fod yn heriol ac yn anodd. Mae i fod i ofyn cwestiynau lletchwith i ni.
Mae nifer wedi dod yn ôl at y pwyntiau yr ydych chi ac Andrew wedi eu gwneud ynghylch sicrhau newid a’r anawsterau yn sgil gwneud hynny, yn rhannol oherwydd ei bod yn system fawr a chymhleth. Hyd yn oed yn y sector preifat—roeddwn i’n arfer gweithio mewn cwmni â rhyw 20 o swyddfeydd ledled y wlad—wrth gyflwyno newid o fewn system lle’r oedd pawb wedi’u cyflogi gan yr un sefydliad, byddech yn gweld bod y diwylliant yn wahanol mewn gwahanol swyddfeydd. Roedd cyflwyno un system, i reoli achosion er enghraifft, yn anoddach mewn gwirionedd nag y byddech yn meddwl y byddai. Felly, bydd cyflawni rhywbeth ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol—nid iechyd yn unig, ond iechyd a gofal cymdeithasol—yn anodd, wrth reswm, ond yr her i ni yw cydnabod, fel y dywedais yn gynharach, y rheidrwydd i newid a'r ffaith nad ydym wedi gwneud cymaint ag y byddem wedi dymuno ei wneud cyn hyn.
Dylem ni fod yn onest am y ffaith, hyd yn oed ar sail tystiolaeth wirioneddol, fod pob un ohonom yn cael ein tynnu i wahanol gyfeiriadau gan bwysau lleol. Bob tro y mae cynnig gwasanaeth sylweddol ar gyfer newid, wrth reswm, bydd pwysau ar Aelodau o bob plaid i ymladd yn lleol ac i ddweud bod rheswm gwahanol pam na allai neu pam na ddylai newid ddigwydd. Nawr, mae'n rhaid i ni fod yn barod i gydnabod hynny, a phan fydd y modelau gofal newydd hynny yn cael eu cyflwyno i’w hystyried, a'r awgrym ac argymhelliad gan y panel adolygu eu bod yn wedyn yn cael eu treialu ac wedyn eu cyflwyno’n sylweddol ac yn gyflym ledled y wlad, bydd hynny’n anodd i bob plaid, nid dim ond i un yn y Siambr hon, ac i bobl leol mewn amrywiaeth o wahanol ardaloedd. Ond yr her fel arall yw ein bod yn mynd yn ôl i, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym yn arafu cyflymdra y newid ac rydym yn caniatáu i newid ddigwydd i ni yn hytrach na gwneud dewis goleuedig am yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yn wahanol'. Mae hynny'n mynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi wedyn.
Rwy'n credu bod gennych bwynt diddorol ynghylch sut yr ydym yn cymell neu’n mynnu integreiddio yn y system iechyd—mewn gwirionedd, rhwng gwahanol rannau o'r gwasanaethau eilaidd a gwasanaethau aciwt eraill, yn ogystal â gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill hefyd. Mae rhywfaint o hynny eisoes yn digwydd. Mae gennym gyllidebau cyfun yn dod i mewn i’r cynllun yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf mewn nifer o wasanaethau. Mae gennym fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau rhanbarthol sydd eisoes yn cydweithio fel partneriaethau ac yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud, os mynnwch chi, â’r ymagwedd o'r gwaelod i fyny fwy real, lle mae pobl yn eistedd gyda'i gilydd ac yn sylweddoli y gallent ac y dylent wneud mwy gyda'i gilydd, a bod mwy o werth i'w gael wrth i’r amryw gyllidebau hynny yn y sector cyhoeddus weithio ar y cyd â’r broses o wneud penderfyniadau.
Yr hyn y mae'r adolygiad hefyd yn ei nodi yw bod hynny, ar ei ben ei hun, yn annhebygol o fod yn ddigon. Felly, mae digon yn gyffredin yn y fframwaith canlyniadau, y cymwyseddau a'r dangosyddion perfformiad allweddol yr ydym yn eu gosod i bobl ar draws gwahanol sectorau i alluogi a gorfodi pobl i gydweithio ar yr un pryd. Mae gennym hefyd yr her o weithio gyda'r heddlu—y grŵp amlycaf sydd heb ei ddatganoli sydd â buddiant gwirioneddol mewn canlyniadau iechyd a gofal, ac sy’n effeithio arnynt. Felly, mae hynny hefyd yn cyfrannu at rai o'r camau yr ydym eisoes wedi eu cymryd wrth, er enghraifft, gymell gofal sylfaenol i gydweithio'n wahanol. Rydym wedi ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gyda'i gilydd mewn clystyrau. Cawsom bwyntiau a oedd yn dibynnu ar gyfraniad y fframwaith ansawdd a chanlyniadau, ond hefyd arian a oedd yn gysylltiedig â hynny. Felly, yr oedd yna gymhelliant hefyd i ddweud, 'Dyma’r arian. Cewch chi ddewis sut yr ydych yn ei wario yn lleol i ddiwallu anghenion eich poblogaeth leol.’ Felly, mae rhywfaint o hynny eisoes yn digwydd ac mae'r tîm adolygu yn gadarnhaol am waith y clystyrau. Yr her unwaith eto yw: sut ydych chi wedyn yn deall beth yw arloesi lleol, ac yna sut ydych chi'n cyrraedd y pwynt o werthuso hynny a phenderfynu beth i'w wneud, beth y dylid gwneud mwy ohono, ac yna beth i beidio â buddsoddi ynddo, hefyd? Dyna’r dewis mwy anodd y mae’n rhaid i ni ei wneud yn aml.
Yn olaf, ynglŷn â’r maes arbennig hwn, rwyf eisoes wedi gwneud gofynion, ac yn disgwyl i rai pethau ddigwydd. Rydym yn gwybod ein bod wedi cael her o ran gweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd. Dyna pam y mae Hywel Dda ac ABM yn cydweithio. Maen nhw wedi cael cyfarfod cydgynllunio eisoes ac maen nhw wedi bod yn gall ac yn ddoeth iawn, gan dderbyn fy ngwahoddiad i gwrdd yn rheolaidd i gydgynllunio gwasanaethau—ac mae'r un peth yn wir yn y de-ddwyrain hefyd, gyda Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro. Oherwydd bod yna wasanaethau, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y rhai arbenigol, ond yn y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau dewisol arferol hefyd, lle y gellid ac y dylid cynllunio ar draws y ffiniau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn gwneud synnwyr. Ac os na allwn ni ysgogi’r math hwnnw o waith yn ein gwasanaeth, rydym yn annhebygol o weld y math o newid sylweddol yr ydym yn dymuno ei weld, ac yr ydych chi a fi a phawb arall yn yr ystafell hon yn credu ei fod yn angenrheidiol ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
Mae hynny’n rhan o sut a pham yr ydym yn buddsoddi mewn gofal sylfaenol, y dewis yr ydym eisoes wedi ei wneud, ond mae angen mwy o hynny gan fod y pwysau bron bob tro i fuddsoddi mewn staff a gwasanaethau drud mewn ysbytai. Mae angen i ni wneud mwy i gynnal llinell a gweld y buddsoddiad hwnnw yn dod i ofal sylfaenol a gofal yn y gymuned. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed yn dda gennych yn tynnu sylw at dechnoleg a'r gallu nid yn unig i gael dull ‘unwaith i Gymru’ mewn systemau allweddol, nid yn unig i gael system lle gallwch chi drosglwyddo gwybodaeth rhwng y sector gofal sylfaenol a gofal eilaidd a gofal cymdeithasol, ond hefyd i’r dinasyddion eu hunain gael mwy o reolaeth dros eu gwybodaeth a mynediad at sut i ddefnyddio'r system. Rydym eisoes yn gallu gwneud hynny mewn cynifer o wahanol elfennau o fywyd. Gallwch fancio ar-lein a chael mynediad at wybodaeth sensitif iawn. Yr her i ni yw: sut ydym ni’n galluogi dinasyddion i gael mynediad at eu gwybodaeth gofal iechyd eu hunain mewn ffordd a ddylai eu helpu i reoli eu cyflyrau eu hunain a gwneud dewisiadau mwy goleuedig? Mae potensial gwirioneddol yno, ond unwaith eto, mae angen i ni fodloni llawer yn well y disgwyliadau o ran sut y mae pobl eisoes yn byw eu bywydau ac rwy’n dymuno galluogi hynny i ddigwydd yn gyson ledled y wlad hefyd.