Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddweud cymaint yr wyf i’n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau mae Lee Waters wedi eu gwneud? Pan eich bod yn Weinidog, rydych chi’n tueddu i ymweld â nifer o wahanol ysgolion a sefydliadau. Ymwelais i ag ysgol yn eich etholaeth chi tua chwe mis yn ôl. Ymwelais â fy hen ysgol fabanod gyda'r Ysgrifennydd dros addysg. Mae bob amser yn brofiad rhyfedd mynd yn ôl i’ch ysgol eich hun. Pan ddechreuais i yn ysgol fabanod Glanhywi, tua 1968, 1969, rwy’n credu, tua’r adeg honno, yr unig Gymraeg a glywais oedd unwaith y flwyddyn ar Ddydd Gŵyl Dewi, pan oeddem ni’n cael eisteddfod, pryd y dysgwyd ni sut i ganu cân arbennig, ac roeddem ni’n canu’r gân honno ac yna yn dychwelyd i’n bywydau bob dydd. Roedd yn bleser mawr treulio amser yn siarad ag athrawon ac yn siarad â phobl yno, lle’r oedd geiriau Cymraeg yn cael eu cyflwyno i blant yn y cyfnod sylfaen. Felly, roedden nhw’n cyflwyno lliwiau a rhifau ac yn cyflwyno cysyniad yr iaith iddynt, mewn modd na fyddai neb wedi ei ddychmygu pan oeddwn i yn blentyn yn Nhredegar. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu cyflwyno mwy o Gymraeg—a’r continwwm o gaffael iaith yr ydym ni wedi bod yn dadlau drosto ac wedi ei drafod yn rhan o'r cwricwlwm newydd— yn y sector Saesneg mewn modd nad yw'n ymosodol, nad yw’n gwthio rhywun at ymyl y dibyn, nad yw’n gorfodi pobl ac yn mynnu eu bod yn cael popeth yn gywir ym mhob agwedd ar ramadeg ac iaith. Mae a wnelo hyn yn hytrach â gallu teimlo'n gyfforddus wrth wrando, dysgu a siarad yr iaith, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n annog pobl i ddefnyddio'r iaith, ac nid eu llesteirio drwy fod yn rhy ymosodol ar wahanol agweddau arni. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny.
Fe soniasoch chi am y gweithlu. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gallu gwneud hynny. Mae rhywbeth fel traean o athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu siarad Cymraeg, ac nid yw pob un ohonyn nhw yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg nac addysgu Cymraeg fel pwnc. Felly, mae angen i ni fuddsoddi mewn hyfforddiant i athrawon, fel bod athrawon yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu cyflwyno agweddau ar ein hiaith yn ogystal ag addysgu'r iaith. Ond, yn gyffredinol, mae gennyf yr un pryder yn union â chithau. Dydw i ddim eisiau creu system addysg lle mae rhai pobl yn dysgu ac yn siarad ac yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn rhugl ac yn rhwydd, a hanner arall y system heb fod yn deall hyd yn oed y pethau sylfaenol. Dyna sydd gennym ni heddiw i bob pwrpas, a dyna beth mae'n rhaid i ni gefnu arno. Rwy’n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc, pan fyddant yn gadael yr ysgol yn 16 oed, yn gallu siarad a defnyddio'r Gymraeg—rhai i raddau mwy nag eraill—ond y byddant o leiaf yn gallu teimlo'n gyfforddus gyda'r iaith, a chlywed yr iaith o'u cwmpas, a deall y pethau sylfaenol. Bydd rhai yn dewis, wrth gwrs, mynd ymlaen ac astudio’n ehangach, a phob lwc iddynt. Bydd eraill yn dewis peidio â gwneud hynny, a phob lwc iddynt hwythau hefyd. Ond, yn sicr, yr hyn yr wyf i’n awyddus i’w wneud yw sicrhau bod gennym ni system addysg ddwyieithog lle mae pawb yn gallu cael yr un cyfle i gaffael yr iaith ac i ddeall y diwylliant sy'n sail iddi hefyd. Felly, mae’r sector Saesneg yr un mor bwysig, ac, fel y dywedwch chi, efallai ychydig yn fwy anodd na’r sector Cymraeg o bosib.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ei hun gydnabod na allwch chi newid y byd heb newid eich hun. Rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod nad polisi ar gyfer Cymru yn unig yw hwn, ond polisi i ni, yn ogystal, fel Llywodraeth. Bydd angen i ni edrych eto ar sut yr ydym ni’n gweithredu fel gweinyddiaeth i sicrhau ein bod ninnau’n gweithredu'n ddwyieithog hefyd, ac nid dim ond yn anfon llythyrau o Fae Caerdydd neu Barc Cathays i ddweud wrth y byd sut y dylen nhw weithredu. Mae angen i ni wneud hynny ein hunain, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ffyddiog y byddwn ni yn ei wneud.