Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Gweinidog, a gaf i eich canmol am y datganiad heddiw ac am yr uchelgais y tu ôl i'r polisi? Ni ddylai fod gennym ni unrhyw amheuaeth fod hwn yn bolisi diwylliannol radical sy'n tynnu’n groes i’r ffordd y mae’r iaith wedi cael ei defnyddio am ganrif neu fwy, ac nid yw hyn yn mynd i fod yn orchwyl hawdd, ond rwy'n credu ei bod hi’n hollol briodol ein bod yn ceisio ymgyrraedd at wneud hynny.
Carwn ganolbwyntio, os caf i, ar y system addysg. Rydych chi’n gosod targed o gael 70 y cant o ddysgwyr yn medru defnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd ar eu bywydau erbyn 2050, ac rydych chi wedi gosod uchelgais clir ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg i fod yn rhan bwysig o gyflawni hynny. Er hynny, mae'n ymddangos i mi na all y sector cyfrwng Cymraeg fyth greu’r math hwnnw o dwf ar ei ben ei hun. Rwyf hefyd yn credu ei bod hi’n foesol anghywir, os caf i ddefnyddio iaith gref o’r fath, bod plant sy'n cael eu haddysgu yn y sector cyfrwng Saesneg yn cael eu hamddifadu o allu defnyddio’r iaith yn effeithiol. Mae fy merch naw mlwydd oed fy hun yn blentyn disglair nad yw’n gallu siarad yr un gair o Gymraeg. Nid yw ei hathrawon yn siarad Cymraeg, ac mae llawer iawn o blant ysgol ledled Cymru—. Mewn gwirionedd, mae 68 y cant o’n plant saith mlwydd oed mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac rydym ni’n eu hamddifadu nhw o iaith ein cenedl, ac rwy’n credu bod hynny yn anghywir. Rwy'n credu bod yn rhaid i’r strategaeth hon fynd i'r afael â hynny, ac nid dim ond mynd i'r afael ag ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg, sef y rhan gymharol hawdd ei wneud, ond mynd i'r afael â'r agwedd llawer mwy heriol o gael y mwyafrif helaeth o ysgolion i addysgu Cymraeg mewn ffordd lle mae’r plant yn gallu cyrraedd y targed hwnnw o ddefnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd ar eu bywydau. Rydych chi’n dweud yn y strategaeth, ac yn hollol iawn hefyd, bod llwyddiant yn dibynnu ar ddatblygu sgiliau'r gweithlu. Mae honno'n orchwyl enfawr. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni sut, yn ymarferol, yr ydych chi’n bwriadu gwneud hynny, ac os gallwch chi hefyd ddweud ychydig wrthym ni am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn bwriadu ei wneud i gyflawni amcanion y strategaeth hon o fewn y Llywodraeth. Diolch.