Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i fy nghyfaill, yr Aelod dros Gwm Cynon, am ei sylwadau. Cyfarfûm â Sefydliad Bevan ddoe ac fe drafodais rai o'n syniadau. Dylwn i ddweud a'i roi ar y cofnod fy mod, wrth gwrs, yn gyn-aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Bevan, ac rwyf wedi meddwl erioed bod Sefydliad Bevan yn cyfrannu at ein holl waith yn y llywodraeth mewn modd heriol, deallus ac adfywiol. Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi adroddiadau a dadansoddiadau Sefydliad Bevan. Rwyf hefyd yn mwynhau’r her mae’r Sefydliad yn ei rhoi i ni, a hir y pery hynny.
Gobeithiaf y byddwn ni, o ran y canolfannau strategol, yn gallu gwneud datganiadau ar hynny yr wythnos nesaf. Yn rhan o'n cynllun cyflawni, a gyhoeddir yn yr hydref, byddwn yn amlinellu sut yr ydym ni’n gweld pob canolfan unigol yn datblygu, ac amserlen ar gyfer hynny. Byddwn hefyd yn sôn am sut y byddwn ni’n ceisio buddsoddi yn y canolfannau hynny i wireddu ein gweledigaeth a'n huchelgeisiau ar gyfer y gwahanol ganolfannau hynny—a fydd yn wahanol mewn gwahanol leoedd, ond byddwn yn sicrhau bod gan bob canolfan ddealltwriaeth glir iawn o'r hyn y gall pob canolfan ei gyflawni a sut y byddwn yn helpu’r ganolfan honno i gyflawni’r uchelgeisiau hynny a thros ba gyfnod.
Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch trafnidiaeth. Crybwyllwyd trafnidiaeth dro ar ôl tro yn ystod ein sgyrsiau â phobl ar draws holl ardal y Cymoedd. Dyna oedd un peth cyffredin ym mhob man yr oeddem ni’n mynd iddo, ac rwy'n meddwl weithiau ein bod ni’n gweld y metro fel yr ateb i bob un o'r problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, ac rydym ni weithiau’n cydnabod bod yr angen am wasanaethau bws lleol, sydd nid yn unig yn cysylltu â’r gwasanaethau metro, ond hefyd â gwasanaethau cyhoeddus, yn gwbl hanfodol, ac i sicrhau bod gennym ni wasanaethau cyhoeddus wedi eu lleoli yn y fath fodd fel eu bod yn hygyrch i bobl heb yr angen am gludiant preifat a defnyddio ceir. Mae hynny'n gwbl hanfodol, rwy’n credu, wrth i ni symud ymlaen. Rwy’n gobeithio y gallwn ni roi mwy o bwyslais ar hynny.
Mae'r pwyntiau a wnaed am ddinas-ranbarthau a chysylltiadau yn gwbl hanfodol hefyd, a chyfeiriaf yr Aelod yn ôl at fy ateb cynharach pan siaradais am beidio â dymuno dyblygu a gorgymhlethu’r strwythurau sydd gennym ni ar gyfer cyflawni, a’n bod ni’n defnyddio strwythurau darparu presennol a mecanwaith presennol y Llywodraeth yn hytrach na chreu unrhyw beth newydd, ond ein bod yn gallu cydgysylltu a deall sut y byddwn ni’n cydgysylltu’n well yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud.
I roi ateb, cyflym, i’ch pwynt olaf ynglŷn â gofal cymdeithasol a gofal plant, rwy’n cofio treulio peth amser yn siarad â rhieni a phlant mewn grŵp yng Nglyn-nedd—grŵp Dechrau'n Deg—a gwrando ar yr hyn yr oedden nhw’n ei ddweud am yr anawsterau maen nhw’n eu hwynebu, yn gyntaf oll i ddod o hyd i ofal plant, ac yna gallu dychwelyd i'r gwaith ynghyd â bod eisiau dychwelyd i’r gwaith. Mae'n rhywbeth sy'n aros yn fy nhof yn awr. Rwy'n credu bod hyn yn un peth y dylem ni fod yn buddsoddi ynddo, a, drwy’r gwaith y mae Carl Sargeant yn ei arwain, rwy’n gobeithio y byddwn ni’n buddsoddi mewn gofal plant ac yn buddsoddi mewn hyfforddi pobl, gan alluogi pobl i weithio yn y sector yn ogystal, er mwyn eu galluogi i ddod o hyd i waith, ond hefyd i sicrhau bod rhieni sy'n gweithio yn y Cymoedd yn gallu cael gofal plant o ansawdd da sydd hefyd yn fforddiadwy.