Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy’n dymuno amlinellu fy agenda i ar gyfer cyflogadwyedd. Rwy'n hynod falch fod hyn yn dilyn ein trafodaeth ni ar y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de gan y bydd cefnogi pobl wrth iddyn nhw geisio gwaith yn nodwedd allweddol o waith y tasglu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Bydd ymgysylltu â chymunedau, y mae tasglu’r Cymoedd eisoes wedi dechrau ei wneud, yn parhau. Rydym hefyd yn cydnabod bod ymdeimlad o frys wrth gael swyddi a thwf i gymunedau ledled Cymru sydd mewn angen o’r ddeubeth. Mae’r cyfle i ennill sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd o ansawdd da yn hanfodol ac rwy'n falch o allu symud ymlaen i fynd i’r afael â hyn ar unwaith. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yng nghyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 1.4 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru, sef cynnydd o 19.1 y cant ers datganoli. Ond gwyddom hefyd fod y gyfradd diweithdra yn parhau i fod yn uchel mewn rhai cymunedau ledled Cymru. Er na ddylid tanamcangyfrif cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r gyfradd gadarnhaol o gyflogaeth yn gyffredinol, gyda chefnogaeth cyllid yr UE, rydym yn gwybod nad yw’r stori hon yn un gwbl gadarnhaol ac mae'n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi pobl sy’n anweithgar yn economaidd, y rheini a hoffai weithio oriau ychwanegol a'r rheini mewn cyflogaeth ansicr.
Mae thema cyflogadwyedd yn llifo drwy bob un o’r pedair strategaeth drawsbynciol sy’n datblygu. Yn syml, nid mater o swyddi a sgiliau yn unig yw cyflogadwyedd; mae'n ymwneud â chael pob agwedd ar Lywodraeth—addysg, iechyd, tai, cymunedau, trafnidiaeth, natur wledig, gofal plant, datblygu rhanbarthol—i weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl i gael gwaith cynaliadwy. Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Cabinet fy null i ar draws Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyflogadwyedd, sy’n nodi ein nod cyffredin o gynnal cyfradd uchel o gyflogaeth yng Nghymru, lleihau anweithgarwch economaidd a chynyddu nifer y bobl sydd mewn gwaith o ansawdd da. Yr her y mae’r Cabinet wedi ei rhoi i mi, ac y bydd yn fy nghefnogi i’w chyflawni, yw gyrru ymlaen â'r gwaith hwn, gan gydweithio, i gyflawni newid sylweddol yn ein dull ni o weithredu.
Ers mis Ebrill rwyf wedi sefydlu strwythur llywodraethu i gyfarwyddo'r gwaith hwn. Rwyf wedi ymestyn y gweithgor cyflogadwyedd gweinidogol, er mwyn sicrhau ymateb integredig drwy’r Cabinet. Rwy’n ddiolchgar i fy nghydweinidogion ar y gweithgor—Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—am eu cyfraniad i'r datganiad hwn heddiw. Byddaf yn defnyddio'r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ar ei newydd wedd, sydd eisoes wedi cymeradwyo ein hagenda cyflogadwyedd, i roi cyfeiriad strategol a her o du cyflogwyr a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol ac undebau llafur. Er mwyn sicrhau dull llawer mwy integredig, rwyf wedi sefydlu bwrdd cyflogadwyedd yn ymestyn dros Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys uwch swyddogion drwy holl adrannau’r Llywodraeth. Mae'r bwrdd wedi cael y dasg o lunio cynllun cyflenwi cyflogadwyedd i'w gyhoeddi cyn y Nadolig. Bydd y cynllun yn edrych yn fanwl ar wasanaethau a’r seilwaith sy’n bodoli eisoes, asesu eu gwerth wrth helpu pobl i ddod o hyd i waith a'i gadw, ac ystyried a ydynt yn rhoi gwerth am arian. Fel yr ydym yn ymwybodol i gyd, daw hyn yn bwysicach eto yn y blynyddoedd yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Byddaf yn sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn llunio cynllun cyfathrebu manwl â rhanddeiliaid allanol a fydd yn llywio cyfnod o ymgysylltu allanol i gyfarwyddo'r cynllun cyflenwi cyflogadwyedd.
Yn y cyfamser, nid ydym yn sefyll yn yr unfan. Disgwylir y bydd ein cynnig cyflogadwyedd newydd yn dechrau cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2019. Bydd hyn yn sefyll fel cynnig unigol dan yr enw, 'Cymru ar Waith', a bydd rhaglen newydd i oedolion yn sylfaen iddo, ynghyd â dwy raglen newydd a fydd yn rhoi cefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ifanc. Rhwng nawr a’r pryd hwnnw, byddwn yn ad-drefnu ein rhaglenni presennol i ganiatáu trawsnewidiad llyfn, gan ddefnyddio'r Cymoedd yn ardal brawf i drwytho'r dull cyflenwi newydd. Byddwn yn gwneud newidiadau i rai o'n rhaglenni cyflogadwyedd presennol, gan gynnwys ReAct a ariennir gan yr UE, Twf Swyddi Cymru a’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, a sicrhau bod y rhain yn cydsefyll yn effeithiol i wella cymorth i bobl ddi-waith a'r rhai sydd byth a hefyd mewn cyflogaeth dros dro, sy’n talu’n wael.
Rydym yn cydnabod na all hyn fod yn fater yn unig o gymorth i unigolion. Rydym am gefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu talent o fewn eu busnes, i roi hwb i gynhyrchiant a chyfle i bobl leol gael swyddi gwell ac agosach at eu cartref. Byddwn yn darparu cymorth busnes a chefnogi sgiliau integredig trwy Fusnes Cymru wrth wella ein rhagleni sgiliau hyblyg a chyflogadwyedd. Ein nod yw cefnogi 100 o fusnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial mwyaf ar gyfer twf, drwy gyfrwng yr hyn yr ydym yn ei obeithio fydd yn gymorth unigol i greu swyddi, cymorth ar gyfer recriwtio, cyflwyno hyfforddiant arbennig rhag-waith ac mewn gwaith, ac uwchsgilio a datblygu’r staff presennol. Rydym yn awyddus i hyrwyddo ffyniant i bawb fel bod manteision twf economaidd yn cael eu rhannu gan bawb sydd â gwaith. Rydym yn cefnogi gwelliannau i dâl ac amodau ar gyfer y rhai mewn cyflogaeth tâl isel ac ansicr. I'r diben hwn, mae gwaith wedi dechrau ar Gomisiwn Gwaith Teg, yr wyf i’n ei gadeirio. Adroddir am ganfyddiadau rhagarweiniol yn yr hydref.
Mae'n rhaid i ni roi cyngor ac arweiniad clir i unigolion. I gyflawni hyn, rydym yn awyddus i ddatblygu dull cyffredin o nodi anghenion cyflogaeth unigolion, a chefnogi proses atgyfeirio a chymorth ddi-dor. Rydym yn awyddus i weithio ledled y Llywodraeth i ddylunio a threialu'r defnydd o adnodd proffilio a system wybodaeth rheoli, fel y bydd cynghorwyr ledled Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yn defnyddio'r un system yn y dyfodol. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn cyrraedd y rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur ac yn rhoi iddyn nhw becyn cyfannol o gymorth a mentora personol, pwrpasol a dwys. Rydym hefyd yn dymuno lleihau’r rhwystrau cymhleth ar gyflogaeth, mynd i'r afael â lefelau anweithgarwch economaidd, a chyflawni ein huchelgais o ddatblygu ffyniant i bawb. Ni allwn gyflawni hyn mewn gwirionedd ond drwy gymorth sy’n fwy cydnaws, a ddaw yn sgil gweithio'n effeithiol ledled y Llywodraeth. Felly, carwn gydnabod yr ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu allgymorth yn y gymuned, fel yr amlinellwyd yn ei ddatganiad ar ddatblygu dull newydd o ymdrin â chymunedau cydnerth. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu cymorth cyflogaeth arbenigol i bobl sy'n gwella yn dilyn camddefnyddio sylweddau a chyflyrau o afiechyd meddwl.
Mae'n rhaid i'n gwaith ar gyflogadwyedd roi ystyriaeth lawn i’r cydbwysedd sy'n bodoli rhwng cyfrifoldebau ar gyfer cyflogadwyedd sydd wedi’u datganoli a’r rhai heb eu datganoli. Rydym yn dymuno gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddylanwadu ar raglenni’r DWP yn y dyfodol a sut mae’r DWP yn gweithio yng Nghymru o ran cynllunio gwasanaethau cyflogaeth ar y cyd ac integreiddio o fewn ein cynllun cyflawni cyflogadwyedd arfaethedig. Os ydym eisiau llunio agenda gyflogadwyedd newydd, mae angen i ni ysgogi dull cydlynol ar draws Llywodraeth Cymru ac â'n partneriaid o fynd i'r afael â'r aml rwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar waith teg o ansawdd da a gwneud cynnydd ynddo. Bydd y dull hwn o fudd i unigolion ledled Cymru ac yn sicrhau'r dyfodol llewyrchus a diogel sydd ei angen i ni symud Cymru ymlaen. Diolch.