Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dywed y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn dymuno cefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu doniau o fewn eu busnesau, rhoi hwb i gynhyrchiant, a rhoi cyfle am swyddi gwell i bobl leol yn agosach i’w cartrefi. Yn ôl adroddiad gan Fanc Lloyds ym mis Rhagfyr y llynedd, mae 28 y cant o gwmnïau yng Nghymru wedi cael anawsterau wrth gyflogi staff medrus newydd yn ystod y chwe mis diwethaf. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sut y mae'n bwriadu cryfhau’r cysylltiadau â chymunedau busnes i sicrhau bod y sgiliau cywir sy'n ofynnol gan y cyflogwyr yn cael eu darparu yng Nghymru? A fyddai modd iddi hefyd gadarnhau y bydd Cymru ar Waith yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein gweithlu lle mae llawer o anghydbwysedd yn bodoli’n barod?
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn dymuno datblygu dull cyffredin o nodi anghenion cyflogaeth unigolion. Dywedodd Estyn yn ddiweddar fod angen mwy o gymorth ar fyfyrwyr anabledd dysgu gan golegau i nodi eu hanghenion ar gyfer cyflogadwyedd. Roedden nhw’n argymell bod colegau yn pennu cynlluniau dysgu unigol ac yn dylunio rhaglenni sy'n fwy heriol i ddisgyblion. Sut fydd ei strategaeth hi yn mynd i'r afael â’r anghenion ac yn gwella’r rhagolygon ar gyfer myfyrwyr ag anableddau a galluoedd o ran dysgu?
Roedd y datganiad yn crybwyll Gyrfa Cymru. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod disgyblion ysgolion uwchradd mewn rhannau o Gymru yn cael gwybod na fydd yna unrhyw brofiad gwaith ar eu cyfer, gan fod Gyrfa Cymru yn methu â chynnal gwiriadau iechyd a diogelwch ar gyfer lleoliadau gwaith. Sut y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r mater hwn o leoliadau gwaith, sy'n hanfodol wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith? Dywedodd Ysgol Addysg Caerdydd yn ddiweddar ei bod yn warth cenedlaethol nad yw plant yn cael y cyfle i oresgyn tlodi oherwydd diffyg cyngor gyrfaoedd. Sut wnaiff y cynigion hyn gynyddu capasiti’r cyngor gyrfaoedd sydd ar gael yng Nghymru?
Ers Brexit, mae'n hanfodol i bob plentyn yng Nghymru feddu ar fwy nag un sgìl i wasanaethu, ffynnu, a chyfrannu at ein cenedl, a dim ond y Ceidwadwyr—edrychwch ar eu syniadau nhw a sut y byddan nhw’n gwneud hynny. Dirprwy Lywydd, rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog ac yn edrych ymlaen at ei hateb yn awr.